Y wybodaeth ddiweddaraf ar ofal plant Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio tuag at ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i fwy o blant dwy oed, gyda’r dyhead o symud tuag at gynnig cynhwysol. Yn seiliedig ar ragolygon presennol ar gyfer 2025 i 2026, roeddem yn credu bod posibl ehangu cymhwysedd ymhellach.

Fodd bynnag, cyn gallu cyflwyno darpariaeth ychwanegol, rhaid i ni gyflawni dadansoddiad pellach ar fforddiadwyedd hirdymor yr ehangiad, yn arbennig tu hwnt i 2025 i 2026. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall unrhyw ehangiad i ofal plant Dechrau’n Deg gael ei gynnal am y blynyddoedd i ddod, fel nad yw’n arwain at orfod tynnu darpariaeth yn ôl.

Deallwn y bydd hyn yn rhwystredig ac yn siomedig ar gyfer teuluoedd yn y codau post nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd, yn arbennig gan fod disgwyliadau wedi cael eu codi am ehangu’r ddarpariaeth. Rhaid i benderfyniadau o ran ehangu Dechrau’n Deg gydbwyso dyhead gyda’r angen am sicrwydd ariannol a thegwch ar draws holl ardaloedd.

Mae Sir Ddinbych bellach yn cyflawni gwaith hyfywedd a rhagolwg manwl a bydd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf unwaith bydd y gwaith wedi’i gwblhau ac unwaith fydd canlyniad Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru yn hysbys.

Yn y cyfamser, nid yw cymhwysedd gofal plant Dechrau’n Deg wedi newid.