Ceidwad Chwarae: Bwyd a Hwyl

Sesiynau chwarae mynediad agored boreol yw sesiynau Bwyd a Hwyl lle bydd cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau gyda brecwast yn cael ei ddarparu.

Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:

  • Chwaraeon Amrywiol 
  • Celf a chrefft
  • Gemau
  • Adeiladu den
  • Coginio pwll tân
  • a mwy

Mae gan y sesiynau hyn bolisi mynediad agored, sy’n golygu bod y bobl ifanc yn rhydd i adael y sesiwn unrhyw bryd.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?

Mae sesiynau Bwyd a Hwyl ar gyfer plant rhwng 8 a 14 oed.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Mae sesiynau yn digwydd rhwng 9:30am a 11am yn Canolfan Ieuenctid Prestatyn ar:

  • Dydd Llun 11 Awst 2025
  • Dydd Llun 18 Awst 2025

Dewch o hyd i sut i gyrraedd Canolfan Ieuenctid Prestatyn.

Sut i gymryd rhan

Mae pob sesiwn Bwyd a Hwyl wedi'u harchebu'n llwyr ar hyn o bryd.

Mwy o wybodaeth

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sesiwn yma, gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae.