Croeso i’ch Llyfrgell a Siop Un Alwad lleol
Mae ein llyfrgelloedd ar agor ac yn cynnig ystod llawn o wasanaethau – galwch mewn i ddewis, benthyg a dychwelyd llyfrau, i ddefnyddio cyfrifiadur neu wifi, ac i fynychu gweithgareddau. Cliciwch ar eich lyfrgell leol isod i weld yr amseroedd agor.
Mae gennym Ofodau Digidol Unigol ar gael i’w archebu os ydych angen ymuno gyda chyfarfod neu ddigwyddiad arlein. Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad.
Os ydych angen cymorth y Siop Un Alwad gydag ymholiad Cyngor neu i wneud taliad, gallwch ffonio neu alw mewn i’r llyfrgell. Cofiwch ddod â’ch holl fanylion er mwyn i ni fedru delio gyda’ch ymholiad. Os yw’n well gennych gallwch drefnu apwyntiad i ddod i mewn.
Mae llyfrgelloedd yn llefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau diogel, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael. Rydym yn gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb tra yn y llyfrgell er mwyn i ni helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Bydd ein gwasanaeth Archebu a Chasglu poblogaidd yn parhau os ydi hi’n well gennych chi i ni ddewis llyfrau i chi eu casglu neu cael eu danfon atoch. Mae ein Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau at unrhyw un sy’n methu dod i’w llyfrgell leol – cysylltwch i wybod mwy am y gwasanaeth hwn.
Dychwelwch eich llyfrau llyfrgell os gwelwch yn dda. Mae’r holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig ac ni fyddwch yn cael eich dirwyo – ond fe hoffem eu cael yn ôl er mwyn ail-lenwi ein silffoedd! Gallwch eu dychwelyd i’r llyfrgell.
Cofiwch y gallwch ymuno â’r llyfrgell, archebu llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronnau a phapurau newydd am ddim – cliciwch ar y botwm Catalog y Llyfrgell isod.
Catalog y llyfrgell