Ffioedd gwasanaethau llyfrgell
Rydym ni’n codi ffi am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich llyfrgell ac am eitemau coll neu wedi’u difrodi.
Dirwyon
Nid oes dirwyon, ond bydd y ffi adnewyddu berthnasol yn cael ei chodi ar y cyfrif llyfrgell pan fydd eitemau 12 wythnos yn hwyr (gweler isod). Pan ddychwelir yr eitemau bydd y tâl yn cael ei glirio.
Eitemau newydd yn lle rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd
Byddai cost lawn amnewid yr eitem, fel y dangosir ar y catalog llyfrgell, yn ddyledus.
Ni chodir tâl am lyfrau coll / wedi'u difrodi os cânt eu benthyca ar gerdyn plentyn 0 i 18 oed.
Os ydych yn defnyddio eich cerdyn llyfrgell Sir Ddinbych i fenthyca mewn sir arall, efallai y bydd ffioedd a thaliadau’r sir honno’n cael eu hychwanegu at eich cyfrif.
Cardiau llyfrgell coll
Cerdyn llyfrgell newydd
| Oedran yr aelod | Cost |
| Oedolion |
Am ddim i'r tri cyntaf wedyn £1.50 |
| Oed ysgol uwchradd |
Am ddim i'r tri cyntaf wedyn 75c |
| Oed ysgol gynradd |
Am ddim |
Gwneud cais am eitemau o lyfrgelloedd eraill
Nid oes tâl am fenthyg eitemau o lyfrgelloedd eraill yng Ngogledd Cymru.
Argraffu
Cost argraffu mewn llyfrgelloedd
| Math o argraffu | Cost |
| Du a gwyn A4 (y dudalen) |
20c |
| Lliw A4 (y dudalen) |
80c |
| Du a gwyn A3 (y dudalen) |
40c |
| Lliw A3 (y dudalen) |
£1.50 |
Llungopïo
Cost llungopïo mewn llyfrgelloedd
| Math o lungopïo | Cost |
| Du a gwyn A4 (y dudalen) |
20c |
| Lliw A4 (y dudalen) |
80c |
| Du a gwyn A3 (y dudalen) |
40c |
| Lliw A3 (y dudalen) |
£1.50 |
Cost hurio ystafelloedd
Cost hurio ystafelloedd (am hanner diwrnod)
| Math o ystafell | Cost |
| Categori A |
Am ddim |
| Categori B (gostyngedig) |
£20.00 |
| Categori C (masnachol) |
£45.00 |
Llyfrgell Prestatyn
Cost hurio ystafelloedd yn Llyfrgell Prestatyn (am hanner diwrnod)
| Math o ystafell | Cost |
| Categori A |
Am ddim |
| Categori B (gostyngedig) |
£24.00 |
| Categori C (masnachol) |
£54.00 |
Comisiwn
Commission
| Type of Commission | Cost |
| Sale of charity publications |
10% |
| Sale of commercial publications |
30% |
| Exhibition sales |
30% |