Llyfrynnau llwybrau

Mae ein Hadran Dwristiaeth wedi cynhyrchu cyfres o lyfrau teithiau cerdded ar gyfer dinas Llanelwy a rhai o drefi’r Sir. Mae pob llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am adeiladau, tirnodau ac enwogion lleol.

Bwriad y teithiau ydi annog ymwelwyr i anturio yn Sir Ddinbych a dysgu mwy am hanes cyfoethog yr ardal – ac efallai y bydd trigolion lleol hefyd yn dysgu pethau na wyddon nhw o’r blaen am eu hardal!