Camddefnyddio sylweddau

Bydd camddefnyddio cyffuriau’n digwydd pan fydd rhywun yn cymryd un neu fwy o gyffuriau’n rheolaidd i newid eu tymer, eu hemosiynau neu gyflwr eu hymwybod. Un o beryglon mwyaf camddefnyddio cyffuriau ydi y gallwch ddatblygu llwyrddibyniaeth ar gyffuriau.

Sut allwn ni helpu?

Rydym yn cynnig cefnogaeth a chanllawiau i bobl sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.  Ein nod yw darparu triniaeth sy’n canolbwyntio ar adfer sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion unigolyn.

Rydym yn darparu:

  • Asesiad er mwyn nodi anghenion penodol a’r canlyniad dymunol o'r driniaeth
  • Gweithiwr allweddol fydd yn darparu dadansoddiad gweithredol o gamddefnydd sylweddau unigolyn
  • Argymell gwasanaethau sy'n cynnwys triniaeth cyffuriau cysgu
  • Dadwenwyno cymunedol a darparu gwasanaeth dadwenwyno i gleifion mewnol.
  • Ailsefydlu cymunedol sy’n cynnwys gwaith atal ail-ddechrau camddefnyddio a chefnogaeth barhaus gan weithwyr allweddol
  • Ailsefydlu preswyl – mewn cydweithrediad â’r awdurdod lleol, gallwn drefnu lleoliadau mewn canolfannau ailsefydlu arbenigol. 
  • Mynediad i Raglen Grŵp Symud Ymlaen
  • Grŵp Cefnogi Adfer Wythnosol
  • Gwasanaeth cyswllt alcohol yn darparu cyswllt rhwng yr ysbyty a’r gymuned.
  • Gwasanaeth bydwragedd arbenigol i gefnogi merched beichiog sy’n defnyddio sylweddau
  • Cefnogaeth a chyngor i gefnogi rhai sy'n gadael carchar
  • Cefnogaeth i gael mynediad i wasanaethau eraill megis tai neu reoli dyled
  • Gwasanaethau lleihau niwed gan gynnwys gwasanaeth allgymorth cymunedol
  • Gwasanaeth cyfnewid nodwyddau
  • Cyngor nodwyddau diogel, cyngor i leihau'r perygl o orddos damweiniol a darpariaeth Naloxone
  • Profion afiechydon yn y gwaed, gwybodaeth a chyngor
  • Gwybodaeth a chyngor am gamddefnyddio sylweddau 

Pwyntiau Siarad

Gallwch ymweld ag un o’r Pwyntiau Siarad lleol i gael sgwrs ac i dderbyn unrhyw wybodaeth neu gyngor sydd ei angen arnoch.

Pwynt Mynediad Sengl

Os na allwch gyrraedd Pwynt Siarad neu eich bod eisiau trafod â rhywun dros y ffôn, gallwch gysylltu â’n tîm Pwynt Mynediad Sengl.