Llety i bobl hŷn

Mae Llety i bobl hŷn yn fath o lety i bobl dros 55 oed sydd angen cefnogaeth ychwanegol neu i bobl dan 55 oed sydd ag anabledd.

Gall llety i bobl hŷn eich helpu i fyw'n annibynnol, a’ch gwneud yn rhan o gymuned. Mae cymorth ar gael hefyd drwy’r Tîm Cefnogi Pobl i gynorthwyo wrth ddatblygu neu gynnal y sgiliau a’r hyder sy’n hanfodol i fyw mor annibynnol â phosibl.

Mae ein holl eiddo:

  • yn darparu drws ffrynt personol
  • wedi eu gwresogi’n dda
  • gyda rhent rhesymol
  • yn saff ac yn ddiogel
  • wedi’u cynllunio ar gyfer mynediad rhwydd
  • yn hawdd i’w cynnal a’u cadw

Gall unrhyw un dros 55 oed wneud cais am lety i bobl hŷn, ac rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan bobl sydd dan 55 oed sydd ag anabledd.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â ni er mwyn gwneud cais am lety i bobl hŷn:

Rhif ffôn: 01824 712911

E-bostcofrestrtai@sirddinbych.gov.uk

Wrth i ni ystyried eich cais, byddwn yn edrych ar amgylchiadau personol, cyflyrau meddygol, amgylchiadau tai a’r cymorth rydych ei angen i fyw’n annibynnol.