Tai gofal ychwanegol

Mae tai gofal ychwanegol yn rhoi cydbwysedd i chi rhwng byw gartref a bod â gofal penodol ar gael ar y safle os ydych ei angen.

Rydych yn byw mewn eiddo hunangynhwysol, nid mewn cartref preswyl, ac mae gennych eich drws ffrynt eich hun, felly cewch ddewis pwy sy’n dod i mewn. Mae hyn yn golygu eich bod yn cadw eich annibyniaeth.

Mae yna hefyd dîm gofal a chymorth pwrpasol ar y safle. Os oes gennych chi gynllun gofal a chymorth, gallwch chi gael gofal a'r cymorth gan y tîm ar y safle. Bydd y math o gymorth a faint o gymorth a gewch yn newid wrth i'ch amgylchiadau newid dros amser.

Dyma rai o fendithion eraill tai gofal ychwanegol:

  • gall cyplau a ffrindiau gyd-fyw
  • rydych yn cadw eich annibyniaeth
  • gallwch ymuno â gweithgareddau cymdeithasol
  • mae gennych reolaeth dros eich arian
  • mae gennych ddiogelwch a thawelwch meddwl
  • mae gennych gartref am oes

Mae pedwar cynllun gofal ychwanegol yn Sir Ddinbych:

Os hoffech chi drafod dewisiadau tai gofal ychwanegol, cysylltwch â'n Tîm Pwynt Mynediad Sengl, neu cysylltwch â'r cynlluniau tai yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r dolenni uchod.

Mae’r broses ddyrannu mewn Tai Gofal Ychwanegol ar gael yma.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.