Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol: Diogelu

Mae deddfwriaeth yn dweud wrthym ni fod Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb.

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, waeth pwy ydyn nhw neu beth yw eu hamgylchiadau. Diogelu yw amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod. Rydym i gyd yn gyfrifol am ddiogelwch aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymdeithas. Dyma rai adnoddau a deunyddiau hyfforddi penodol yn ymwneud â diogelu unigolion.

Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol am herio asiantaethau perthnasol yn y maes fel bod:

  • Mesurau effeithiol mewn lle i ddiogelu plant
  • Cydweithrediad rhyngasiantaethol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau diogelu a rhannu gwybodaeth
  • Rhagweld a chanfod lle gall unigolion gael eu heffeithio a gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i ddatblygu dull adnabod cynnar a gwasanaethau atal
  • Hyrwyddo gwasanaethau cynnal aml-asiantaeth effeithiol
  • Hyrwyddo dull rhyngasiantaethol i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau lle all poblogaethau fod mewn risg o niwed
  • Defnyddio hyfforddiant rhyngasiantaethol a dosbarthu dysgu ac ymchwil i helpu adeiladu gweithlu aml-asiantaeth mwy hyderus a gwybodus

Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru

Amcanion y Bwrdd Diogelu Oedolion yw:

  • Amddiffyn oedolion o fewn yr ardal sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio), ac yn cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso, neu mewn perygl o hynny
  • Atal yr oedolion hynny yn ei ardal rhag bod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod

Byrddau Diogelu Gogledd Cymru (gwefan allanol).

Adnoddau Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi trosolwg, ac yn darparu adnoddau manwl o ran Rhan 7 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gallwch gael mynediad at yr adnoddau hyn ar y wefan Gofal Cymdeithasol.

Gofal Cymdeithasol Cymru: Adnoddau Diogelu (gwefan allanol).