Dementia: cefnogaeth

Rhywun i siarad â nhw

Wyneb cyfeillgar

Wyneb cyfeillgar

I unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan ddementia, sydd am siarad â rhywun sy'n byw gyda dementia.

Gweinyddir Wyneb Cyfeillgar gan Brifysgol Bangor a'i redeg gan wirfoddolwyr sydd â diagnosis o ddementia. Rhestrir manylion unigolion sy'n byw gyda dementia a'u rhifau cyswllt ar y wefan. Mae croeso i chi ffonio unrhyw bryd am sgwrs. Os nad oes ateb, gadewch neges a byddant yn cysylltu â chi, neu gallwch ffonio un o'r rhifau eraill.

Gwefan: Prifysgol Bangor: Cyfle am sgwrs (gwefan allanol)

Ebost: friendlyfacewales@gmail.com

TIDE - Together In Dementia Everyday

TIDE - Together In Dementia Everyday

Rhwydwaith cyfranogi ledled y DU o ofalwyr pobl â dementia.

Gwefan: TIDE - Together In Dementia Everyday (gwefan allanol)

Ffôn: 0151 237 2669

Ebost: carers@tide.uk.net

Llinell Gymorth Dementia Cymru

Llinell Gymorth Dementia Cymru

Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un, o unrhyw oedran, sy'n gofalu am rywun â dementia yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu neu ffrindiau.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn helpu ac yn cefnogi'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia.

Gwefan: Llinell Gymorth Dementia Cymru (gwefan allanol)

Ffôn: 0808 808 2235

Gwasanaethau'r Cyngor

Casgliadau biniau â chymorth

Casgliadau biniau â chymorth

Os ydych yn oedrannus neu os oes gennych anabledd neu gyflwr meddygol a'i chael yn anodd mynd â'ch biniau / nwyddau ailgylchu i ymyl y ffordd, gallwch wneud cais am help (y cyfeirir ato fel casgliad â chymorth). Gall ein criw gasglu'r biniau a'r cynwysyddion o leoliad y cytunwyd arno ar eich eiddo, eu gwagio a'u dychwelyd i'r un pwynt.

Ar gyfer preswylwyr mewn gwir angen yn unig lle nad oes person abl yn byw yn y cyfeiriad a allai gyflwyno'r biniau neu'r cynwysyddion wrth ymyl y ffordd i'w casglu y mae'r casgliadau hyn ar gael. Gallwch wneud cais ar-lein. Fel arall, gallwch ffonio 01824 706000.

Celf Cymunedol yn Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig

Celf Cymunedol yn Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Hamdden Sir Ddinbych Cyf sy’n rheoli a darparu gweithgareddau hamdden, chwaraeon a chelf a diwylliannol er budd preswylwyr ac ymwelwyr i’r sir.

Nod y gwasanaeth Celf Cymunedol yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf yw darparu cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn y celfyddydau, waeth beth yw eu profiad, oedran neu gefndir, ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi’r blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r tîm artistig yn darparu prosiectau celf cymunedol amlddisgyblaethol ar draws y sir, gan gydweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector gwirfoddol. Mae gan y gwasanaeth hanes blaenorol o ddarparu gwaith arobryn o’r ansawdd uchaf – wedi’i arwain gan artistiaid a chyfranogwyr.

I gael rhagor o wybodaeth:

Mae pwysigrwydd y celfyddydau mewn hyrwyddo iechyd a lles yn cael ei dderbyn yn eang erbyn hyn, fel a adroddir yn Creative Health: The Arts for Health and Wellbeing.

Rydym ni yng Nghelfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn rhedeg rhaglen lawn o weithgareddau'r Celfyddydau mewn Iechyd mewn partneriaeth â gwasanaethau awdurdodau lleol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Gwasanaethau Ieuenctid, sefydliadau cyhoeddus megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau ac elusennau trydydd sector megis Mind, Hosbis Sant Cyndeyrn, y Gymdeithas Strôc a Chanolfan Ni yng Nghorwen.

Oeddech chi’n gwybod?

  • Mae mynychu digwyddiad celfyddydol o leiaf unwaith y mis yn ystod blynyddoedd hwyrach bywyd yn lleihau’r risg o iselder 50%.
  • Mae ymweld ag oriel neu amgueddfa bob ychydig fisoedd yn lleihau eich perygl i ddatblygu dementia 44% - ac mae'r manteision yn para am hyd at 10 mlynedd ar ôl i chi stopio.

Ymgolli mewn Celf

Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych oedd yr unig bartner yng Nghymru i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil pwysig Dementia a’r Dychymyg (gwefan allanol).

Yn dilyn y prosiect ymchwil mae’r tîm wedi parhau i ddatblygu ei waith gyda phobl sy’n byw â dementia gyda phrosiect Ymgolli Mewn Celf, a enillodd Wobr y Celfyddydau, The Hearts for the Arts Award for Best Local Authority Arts Project Encouraging Community Cohesion yn 2018.

Mae’r prosiect Ymgolli Mewn Celf ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, eu teulu a’u gofalwyr. Nod y prosiect yw ymchwilio i’r hyn y gall y celfyddydau gweledol ei gyfrannu wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio ar bobl â dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu, ansawdd bywyd a lles. Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor.

Caiff y prosiect Ymgolli mewn Celf, sydd wedi ennill gwobrau, ei gynnal yng Nghanolfan Grefft Rhuthun bob prynhawn dydd Mawrth, 1pm tan 3pm.  Yn cael eu harwain gan yr artist proffesiynol Sian Hughes, mae’r gweithdai wythnosol yn cynnwys paned o de a sgwrs, ymweliad â’r arddangosfeydd presennol yn yr orielau a gwaith creadigol wedi ei ysbrydoli gan yr eitemau a gaiff eu harddangos yn yr orielau.

Caiff Ymgolli mewn Celf ei gynnal yn ystod y tymor ac mae yna dri phrosiect 11 wythnos bob blwyddyn.

Mae bocsys crefft a Chryno Ddisgiau / DVDs yn parhau ar gael i’w danfon i’r cartref ar gyfer y rhai hynny na allant ddod i Ruthun.

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad blasu, cysylltwch â Jo McGregor ar jo.mcgregor@denbighshireleisure.co.uk neu ffoniwch Jo ar 07799 582766.

Gostyngiadau yn Treth y Cyngor

Gostyngiadau yn Treth y Cyngor

Gellir dyfarnu gostyngiadau Treth y Cyngor i'r trethdalwyr hynny sy'n byw gyda dementia. Comisiynwyd Tîm Arian Martin Lewis hefyd i ddrafftio ffurflen gais safonol sydd bellach wedi'i mabwysiadu gan y 22 Awdurdod Lleol ledled Cymru. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer yr ymholiadau ac rydym yn falch o ddweud cynnydd yn nifer y ceisiadau sy'n cael eu dyfarnu.

I gael gwybod a ydych yn gymwys, cysylltwch â ni drwy e-bost yn revenues@denbighshire.gov.uk, neu os oes brys, ffoniwch 01824 706000.

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Bagiau Hel Atgofion

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Bagiau Hel Atgofion

Mae ein bagiau hel atgofion yn cynnwys casgliad o lyfrau, cerddi, eitemau ac arogleuon sydd wedi eu cynllunio i ysgogi’r synhwyrau ac annog hel atgofion a thrafodaeth.

Mae’r Bagiau Hel Atgofion yn cynnwys ‘Pecyn Gweithgaredd Lles Creadigol’ sy’n cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr.

Mae modd benthyg y bagiau gyda cherdyn llyfrgell, yn union fel llyfr, am gyfnod o 3 wythnos. Mae 8 gwahanol thema i ddewis ohonynt:

  • ar lan y môr
  • dyddiau plentyndod
  • yn yr ardd
  • atgofion cerdd
  • siopa
  • byd gwaith
  • teithio
  • amser hamdden

Mae modd archebu’r bagiau a’u casglu o’ch llyfrgell leol am ddim.

Crewyd y bagiau gan Lyfrgelloedd Sir Ddinbych mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Stori Bywyd CIC a Hamdden Sir Ddinbych Cyf gyda ariannu Rhaglen Grantiau Cymunedau Dementia Ymwybodol 2019/20.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio yn galluogi dull newydd o ddatblygu a chreu cymunedau cryf yn Sir Ddinbych gan ganolbwyntio’n graff ar drechu tlodi drwy gydlynu cefnogaeth a fydd o gymorth i unigolion gael swyddi, dileu’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cael swyddi, rhoi’r cyfle gorau posib i blant ar ddechrau eu bywydau a sicrhau fod dinasyddion Sir Ddinbych yn ganolog i ddyluniad y gwasanaethau.

Mae gan ein tudalen bartneriaeth (gwefan allanol) fynediad i swyddi, cyrsiau, digwyddiadau ac ati. Gallwch atyfeirio eich hun neu rywun arall at ein gwasanaeth.

Cyrff a sefydliadau cyhoeddus a chenedlaethol eraill

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn am i Gymru fod y lle gorau yn y byd i dyfu'n hŷn. Mae’r Comisiynydd yn:

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
  • annog arfer gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru
  • adolygu'r gyfraith sy'n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru

Gall Tîm Gwaith Achos y Comisiynydd ddarparu cymorth dwyieithog uniongyrchol i bobl hŷn:

  • gan eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i ddatrys eich problem
  • ymyrryd yn uniongyrchol os ydych wedi bod yn cael anawsterau gyda darparwr gwasanaeth cyhoeddus na allwch ei ddatrys yn lleol
  • eich cefnogi i wneud cwyn ffurfiol a monitro sut yr ymdrinnir â hi

Cysylltwch dros y ffôn ar 03442 640 670 neu e-bostiwch ask@olderpeoplewales.com

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (gwefan allanol)

Cymunedau BAME

Cymunedau BAME

Cymorth a chyngor a gynigir yn benodol i bobl o gymunedau Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Elusen annibynnol a rhan o'r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru a Lloegr sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim. Eu nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen, pa bynnag broblem y maent yn ei hwynebu. Os oes gennych broblemau arian, budd-daliadau, tai neu gyflogaeth cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych p'un a ydych yn wynebu argyfwng, neu'n ystyried eich opsiynau yn unig. Cysylltwch â nhw dros y ffôn ar 0300 3302 124 neu dewch o hyd i'ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol (gwefan allanol).

Dementia Carers Count

Dementia Carers Count

Mae Dementia Carers Count yn cynnig hyfforddiant am hawliau gofalwyr a buddion lles:

Virtual Carers Centre: dysgu ar-lein, byw (gwefan allanol)

Dewis Cymru

Dewis Cymru

Mae Dewis Cymru (gwefan allanol) yn wefan sydd wedi'i datblygu i helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a all eu helpu i reoli eu lles eu hunain. Mae ganddi wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi, ac mae ganddi hefyd wybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu gyda'r pethau sy'n bwysig i chi.

Tudalennau gwe 'gofal bywyd diweddarach' Which?

Tudalennau gwe 'Later Life Care' Which?

Canllawiau annibynnol ac ymarferol am ddim ynghylch gwneud dewisiadau gofal ledled y DU:

Which?: gofal bywyd diweddarach (gwefan allanol)