Dementia: diogelwch

Diogelu Oedolion

Os yw'n ymddangos bod oedolyn yn dioddef, neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i gynnal ymholiadau i benderfynu a yw hyn yn wir ac i lunio ymateb i sicrhau bod yr oedolyn yn cael ei amddiffyn.

Gweler: diogelu oedolion

Gall staff ac aelodau o'r cyhoedd gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am gyngor, neu gallwch ffonio 999 i gysylltu â'r Heddlu'n uniongyrchol os credwch fod trosedd wedi'i chyflawni neu os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol.

Yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â'n Un Pwynt Mynediad ar 0300 465 1000 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101. Os ydych yn pryderu bod person hŷn yn cael ei gam-drin, gallwch hefyd gysylltu â'r llinell gymorth Action on Elder Abuse ar 0808 808 8141 neu Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru ar 08450 549969. Y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â'r Heddlu ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Teleofal: offer i helpu i gadw pobl yn ddiogel gartref

Gellir cysylltu offer teleofal â gwasanaeth monitro 24 awr neu drwy ffôn symudol neu system rhybuddio gofalwyr. Beth bynnag fo'ch sefyllfa, gellir galw am gymorth.

Gweler ein tudalen teleofal am gostau a sut i wneud cais.

Dilynwch y dolenni hyn i ddarganfod mwy am dechnoleg arall i helpu gydag agweddau ar fywyd bob dydd os ydych chi'n byw gyda dementia:

Protocol Herbert

Nod y cynllun yw helpu i gadw pobl sy'n byw gyda dementia yn ddiogel, yn enwedig, wrth i'w cyflwr ddatblygu, os ydynt yn dechrau 'crwydro' - nad yw'n beth anarferol yn dilyn diagnosis. Yn aml, dim ond pellter byr y bydd pobl yn ei deithio, efallai i'r ardd neu i lawr y stryd a byddant yn dychwelyd ychydig amser yn ddiweddarach. Fodd bynnag, gall rhai pobl fynd ar goll. Gall hyn arwain at deimladau o ddryswch, ofn a bregusrwydd i unigolion a'u teuluoedd, yn enwedig yn ystod y nos neu mewn tywydd garw.

Mae Protocol Herbert wedi'i gynllunio i helpu i leoli unigolion yn ddiogel ac yn iach os byddant yn mynd ar goll, ac yn rhoi sicrwydd i deulu a ffrindiau bod gan yr heddlu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i helpu i ddod o hyd i'r unigolyn. Mae Protocol Herbert yn fenter genedlaethol a fabwysiadwyd gan Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol), yn ogystal â llawer o heddluoedd eraill ledled y DU. Gall Un Pwynt Mynediad ddarparu ffurflen sydd, ar ôl ei chwblhau, ynghyd â ffotograff, yn cael ei rhannu gyda'r heddlu i'w helpu i ddarparu cefnogaeth.