Gofal preswyl tymor byr i’r sawl sy’n derbyn gofal

Mae yna ddewisiadau eraill ar gyfer arosiadau tymor byr mewn Cartrefi Preswyl neu gynlluniau Tai Gofal Ychwanegol. Mae’n bosibl cael arhosiad am ychydig o wythnosau, neu o bosibl gyfnod hwy. Mae trefniadau yn amrywio yn dibynnu ar bolisi’r sefydliad.

Gyda Thai Gofal Ychwanegol mae gennych eich rhandy eich hun, ond mae cefnogaeth ychwanegol ar gael.

Gyda Chartrefi Preswyl mae gennych ystafell wely, ond mae cyfleusterau yn cael eu rhannu gyda phreswylwyr eraill.

Sut i drefnu'r gwasanaeth hwn

Gellir gwneud trefniadau preifat gyda rhai Cartrefi Preswyl (gwefan allanol) a chynlluniau Tai Gofal Ychwanegol, ond gall costau fod yn eithaf uchel. Gall cymorth fod ar gael gan y Gwasanaethau Cymdeithasol os cadarnheir cymhwyster drwy sgwrs ac asesiad Beth sy’n Bwysig.

Cysylltwch â’r Un Pwynt Mynediad neu GOGDdC i wneud ymholiadau pellach.

Ffoniwch ni ar 0300 4561000 yn ystod yr amseroedd isod:

  • Dydd Llun: 8am i 6pm
  • Dydd Mawrth: 8am i 6pm
  • Dydd Mercher: 8am i 2pm and 3pm to 6pm
  • Dydd Iau: 8am i 6pm
  • Dydd Gwener: 8am i 6pm
  • Dydd Sadwrn: 10am i 4pm
  • Dydd Sul: 10am i 4pm
  • Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg): 10am i 4pm

Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn).

Cysylltwch â’r tîm Un Pwynt Mynediad ar-lein