Ansawdd dŵr

Rydym ni’n delio â rhai materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr Sir Ddinbych ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio â materion eraill.

Dewiswch bennawd i wybod mwy am y materion ansawdd dŵr rydym ni’n ymdrin â nhw:

Y cyflenwad dŵr cyhoeddus

Y cyflenwad dŵr cyhoeddus

Mae dyletswydd cyffredinol arnom i sicrhau fod y cyflenwad dŵr cyhoeddus llawn yn iachus ac yn ddigonol. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau dŵr pan fod pryderon ynglŷn ag ansawdd dŵr.

Mae dau gwmni dŵr yn cyflenwi dŵr cyhoeddus yn Sir Ddinbych: Dwr Cymru (gwefan allanol)Hafren Dyfrdwy (gwefan allanol). Mae gan y ddau gwmni dŵr raglen fonitro gynhwysfawr i sicrhau fod y dŵr sy’n cyrraedd eich tap yn ddiogel. 

Cael gwybod am Dŵr Cymru yn eich ardal chi (gwefan allanol)

Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) (gwefan allanol) yn gyfrifol am asesu ansawdd dŵr yfed yng Nghymru a Lloegr.

Cyflenwadau dŵr preifat

Cyflenwadau dŵr preifat

Nid yw cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu darparu gan gwmnïau dŵr a gallant gynnwys ffynonellau, tyllau turio, ffynhonnau, nentydd, afonydd, llynnoedd a draeniau tir. Rydym yn gyfrifol am sicrhau fod cyflenwadau dŵr preifat yn iachus ac yn ddigonol ar gyfer eiddo masnachol a domestig. 

Eiddo domestig

Rydym yn profi cyflenwadau dŵr preifat sy’n cyflenwi dros 10,000 litr o ddŵr y dydd i aelwydydd o leiaf unwaith y flwyddyn. Os yw’n cyflenwi llai na hyn, yna byddai’r cyflenwad yn cael ei brofi unwaith bob pum mlynedd.
Caiff cyflenwad dŵr preifat i eiddo sengl ei brofi o leiaf unwaith bob 5 mlynedd. 

Eiddo annomestig

Profir cyflenwadau dŵr preifat mewn eiddo annomestig o leiaf unwaith y flwyddyn gan ddibynnu ar gyfaint y dŵr a ddefnyddir a’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r dŵr.

Yn cyflenwi llai na 10,000 litr y dydd

Cost: £95.00 a chostau dadansoddi
Nifer o ymweliadau: Unwaith y flwyddyn

Yn cyflenwi mwy na 10,000 litr y dydd

Cost £95.00 a chostau dadansoddi
Nifer o ymweliadau: Dwywaith y flwyddyn

Symud i gyflenwad dŵr preifat

Os ydych chi’n symud i gyflenwad dŵr preifat, neu os ydych chi’n breswylydd newydd mewn eiddo sy’n defnyddio un, gallwch lawrlwytho ffurflen cyflenwad dŵr preifat i roi gwybod i ni.

Cais cyflenwadau dŵr preifat (MS Word, 161KB)

Cost profi cyflenwad dwr newydd yw £95.00.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth ar gyflenwadau dŵr preifat drwy gysylltu â ni neu ymweld â’r gwefannau a ganlyn:

Cyflenwadau dŵr mewn digwyddiadau

Cyflenwadau dŵr mewn digwyddiadau

Rydym yn gyfrifol am sicrhau a monitro bod y trefnydd yn darparu dŵr iachus a digonol ar gyfer digwyddiadau, boed hynny naill ai drwy system gyflenwi breifat o’r prif gyflenwad dŵr neu o gyflenwad dŵr preifat.

Mae Partneriaeth Iechyd Dŵr Cymru (WHPW) wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer sefydlu a monitro cyflenwad dŵr i ddigwyddiadau dros dro.

Cysylltwch â ni os ydych chi’n bwriadu cynllunio digwyddiad dros dro. Gallwch lawrlwytho’r canllawiau hefyd:

Canllawiau ar gyfer darparu cyflenwadau dŵr yfed dros dro mewn digwyddiadau (PDF, 199KB)

Pyllau nofio, sba a phyllau padlo awyr agored

Pyllau nofio, sba a phyllau padlo awyr agored

Rydym yn monitro ansawdd dŵr pyllau preifat a ddefnyddir gan y cyhoedd e.e. gwestai a safleoedd carafanau a phyllau ein canolfannau hamdden. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pyllau’n cynnig amgylchedd iach a diogel.
Cymerir samplau i’w profi o byllau nofio a sba unwaith y mis tra bod samplau pyllau padlo awyr agored yn cael eu cymryd unwaith bob pythefnos. Os nad yw sampl yn cyrraedd y safonau a osodwyd gan y Grŵp Ymgynghorol Trin Dŵr Pyllau (PWTAG) (gwefan allanol), yna byddem yn rhoi cyfarwyddyd i’r bobl berthnasol weithredu.

Cysylltwch â ni os ydych chi’n bwriadu creu pwll i'w ddefnyddio gan y cyhoedd e.e. pwll sba newydd neu dwb poeth.

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad neu gŵyn am unrhyw un o’r uchod. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n delio gyda:

  • Llygredd i ddŵr neu dir 
  • Potsian neu bysgota anghyfreithlon  
  • Pysgod sy’n dioddef neu bysgod marw 
  • Cwrs dŵr wedi’i atal gan gerbyd neu goeden wedi syrthio yn achosi perygl llifogydd 
  • Echdynnu anghyfreithlon o gyrsiau dŵr 
  • Gostyngiad anarferol yn llif yr afon 
  • Glannau afon neu gamlas wedi dymchwel neu eu difrodi’n wael 
  • Cofrestru tanciau septig 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y materion hyn neu roi gwybod am ddigwyddiad, gallwch ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.