Teithio Consesiynol

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu os oes gennych chi anabledd, gallwch hawlio cerdyn teithio consesiynol am ddim gan Drafnidiaeth Cymru. Golyga hyn y gallwch deithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol a rhai gwasanaethau trên ar draws Cymru.

Newidiadau i gardiau teithio consesiynol

Os oes gennych gerdyn teithio gwyrdd gennym ni, bydd angen i chi wneud cais am gerdyn (arddull newydd) gan Drafnidiaeth Cymru ar ôl 9 Medi.

Pwy all wneud cais am Gerdyn Teithio Consesiynol?

Fe allwch chi ymgeisio:

  • os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn
  • os oes gennych chi anabledd corfforol neu anabledd dysgu
  • os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych

Sut ydw i'n gwneud cais?

Bydd angen i chi wneud cais i Drafnidiaeth Cymru am Gerdyn Teithio Consesiynol.

Ewch i portal.tfw.wales i gael yr holl wybodaeth am sut i wneud cais (gwefan allanol)

Faint mae'n costio?

Mae eich Cerdyn Teithio Consesiynol Trafnidiaeth Cymru cyntaf am ddim, gan gynnwys y rheiny sy’n newid o’r hen fath o gardiau.

Os bydd eich Cerdyn Teithio Consesiynol yn cael ei ddwyn neu’n cael ei ddifrodi, gallwch chi gael un newydd trwy wneud cais i Drafnidiaeth Cymru. Mae tâl o £10.00 am hyn.

Os bydd eich Cerdyn Teithio Consesiynol yn cael ei ddifrodi, mae posib iddo gael ei wrthod ar y bws neu’r trên.

Cardiau bws i gydymaith

Os oes arnoch chi angen cymorth wrth deithio, efallai bod modd i chi gael cerdyn cydymaith sy’n caniatáu i un person deithio efo chi yn rhad ac am ddim. I wneud cais am gerdyn cydymaith newydd dylech gysylltu â ni, nid Trafnidiaeth Cymru.

Darganfyddwch fwy am gardiau bws cydymaith, gan gynnwys sut i wneud cais