Rhybudd o Daliadau Cychwynnol Diwygiedig mewn Meysydd Parcio Talu ac Arddangos

Gorchymyn Cydgrynhoi (Mannau Parcio Oddi Ar Y Stryd) Cyngor Sir Ddinbych 2021.

Rhoddir rhybudd drwy hyn gan Gyngor Sir Ddinbych, yn unol ag Adran 35C o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Rheoliad 25 o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a’r holl bwerau galluogi eraill bod graddfa’r taliadau cychwynnol yn ei Faes Parcio Talu ac Arddangos yn Cae Ddôl, Lôn Dogfael a Ffordd y Parc yn Rhuthun yn Sir Ddinbych yn cael ei diwygio o 26 Medi 2025 ymlaen, gan gynnwys y dyddiad hwnnw. Mae’r taliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd wedi’u nodi yn Atodlen 1 yr Hysbysiad hwn ac mae’r taliadau newydd a osodir wedi’u nodi yn Atodlen 2 yr Hysbysiad hwn.

Rhuthun

Mae’r Meysydd Parcio Talu ac Arddangos uchod yn fannau parcio oddi ar y stryd at ddibenion Adran 35 o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1984 y codir tâl ar y cyhoedd am barcio ynddynt, ac fe’u darparwyd gan y Gorchymyn Cydgrynhoi (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) Cyngor Sir Ddinbych 2021.

Gellir archwilio copi o’r Gorchymyn uchod trwy drefniant ymlaen llaw yn ystod oriau swyddfa yn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych yn: Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN.

Atodled 1: taliadau cychwynnol - presennol taliadau talu ac arddangos

Arhosiad hir (trwy gydol y flwyddyn): 8am i 11pm
Hyd yr arhosiadCost
Hyd at 30 munud £0.80
Hyd at 1 awr £1.50
Hyd at 3 awr £2.50
Dros 3 awr £4.00

Atodlen 2: taliadau cychwynnol - newydd taliadau talu ac arddangos

Arhosiad hir (trwy gydol y flwyddyn): 8am i 11pm
Hyd yr arhosiadCost
Hyd at 1 awr Am ddim
Hyd at 3 awr £2.50
Dros 3 awr £4.00

Dyddiedig 3 Medi 2025

Catrin Roberts
Pennaeth Gwasanaeth
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl

Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych