Chwilio am geisiadau cynllunio a gadael sylwadau

Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio diweddar a gadael sylwadau arnynt arlein. Chwiliwch am y cais yr ydych eisiau gadael sylwadau arno a dewis ‘gadael sylwadau’.

Mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy'r system gynllunio

Polisi cynllunio cenedlaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.

Safonau gofod newydd ar gyfer tai fforddiadwy

Gweld y safonau gofod newydd ar gyfer tai fforddiadwy.

Canllawiau ar asesiadau hyfywed

Gweld y canllawiau ar asesiadau hyfywed.

Gallwch hefyd chwilio drwy ddefnyddio nodau nod-chwiliad (*) (e.e. *LL19* neu *Prestatyn*) yn y rhan ‘Location’. 

Chwilio am gais cynllunio

Sesiwn yn rhedeg allan

Wrth gyflwyno sylwadau ar-lein, os byddwch yn gadael y dudalen heb ei gorffen ac yn segur am dros 30 munud mae’n bosibl y bydd eich sesiwn yn ‘rhedeg allan' ac ni fyddwch yn gallu adfer eich sylwadau heb eu gorffen. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi deipio eich sylwadau mewn man arall a’u copïo a phastio i mewn i'r maes sylwadau.

Os ydych yn cael anhawster dod o hyd i gais, cysylltwch â ni a byddwn yn helpu i ddod o hyd i gyfeirnod ar eich cyfer.

Gallwch weld ein rhestrau wythnosol o geisiadau cynllunio wedi'u dilysu.

Gallwch hefyd ymweld â Chaledfryn i weld cais.

Canllaw ar weld a rhoi sylwadau ar gais cynllunio

Dewiswch bennawd am fwy o wybodaeth.

Sut i weld cais cynllunio cyn gwneud sylw

Gallwch chwilio am gais cynllunio ar-lein. Chwiliwch am y tab o’r enw ‘dogfennau’. Yma fe welwch yr holl ddogfennau a hefyd rhai dyddiadau a gwybodaeth allweddol sy'n ymwneud â'r achos.

Gall eich llyfrgell leol eich helpu i weld y cynlluniau ar eu cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus. Dewch o hyd i lyfrgell yn Sir Ddinbych.

Os ydych chi'n cael anhawster gweld cynllun, ffoniwch ni ar 01824 706727.

Gwrthwynebu, cefnogi neu roi sylwadau ar gais cynllunio

Rydyn ni'n rhoi 21 diwrnod o'r dyddiad ar lythyr ymgynghori, neu'r rhybudd safle i bartïon â diddordeb wneud sylw ar gais cynllunio. Os nad ydych wedi cael llythyr, gallwch wirio dyddiad gorffen yr ymgynghoriad ar-lein.

Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori 21 diwrnod fynd heibio, bydd swyddog achos yn asesu'r ymatebion cyn ysgrifennu adroddiad gydag argymhelliad. Gellir derbyn sylwadau o hyd ar ôl y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod a chânt eu cynnwys yn asesiad y swyddog, ar yr amod nad yw'r penderfyniad wedi'i gyhoeddi. Gan y gall hyn ddigwydd unrhyw amser ar ôl y 21 diwrnod, fe'ch anogir i gyflwyno unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod ymgynghori.

Sut i wneud sylw ar gais cynllunio

Gallwch wneud sylw:

Unwaith y byddwn yn derbyn eich sylwadau

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni sicrhau bod yr holl ymatebion i geisiadau cynllunio yn cael eu cyhoeddi. Rydym yn gwneud hyn trwy roi eich sylwadau ar ein gwefan, gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad. Dim ond llofnodion, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost fydd yn cael eu golygu. Bydd sylwadau'n cael eu dileu 6 mis ar ôl i'r cais gael ei benderfynu.

Ni fyddwn yn cydnabod derbyn eich sylwadau gan fod yr holl ymatebion ar gael i'w gweld ar ein gwefan. Os na welwch eich ymateb ar y wefan cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl ei anfon atom, cysylltwch â ni gan ei bod yn debygol na chawsom ni nhw. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y gall gymryd mwy o amser i brosesu ymatebion mewn cyfnodau lle mae’r llwyth gwaith yn uchel.

Ymwadiad

Ni fyddwn yn derbyn sylwadau a gyflwynir yn ddienw na'r rhai yr ydym yn eu hystyried i fod yn cynnwys sylwadau enllibus, gwahaniaethol, difenwol neu dramgwyddus.

Mae gennym ddisgresiwn llwyr yn y mater hwn, ac rydym yn cadw'r hawl i beidio â phostio sylwadau o'r fath. Rydym yn datgysylltu ein hunain o unrhyw sylwadau a wneir o natur enllibus, gwahaniaethol, difenwol neu dramgwyddus.

Ni allwn chwaith dderbyn unrhyw sylwadau sy'n cynnwys sylwadau y gellir eu hystyried yn hiliol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys cyffredinoli, ystrydebau neu ganfyddiadau negyddol am hil, ethnigrwydd neu ddiwylliant.

Yn gyffredinol, sylw hiliol fyddai un sy'n cynnwys geiriau, ymadroddion neu sylwadau sy'n debygol o:

  • Fod yn sarhaus i grŵp hiliol neu ethnig penodol
  • Bod yn ymosodol yn hiliol, yn sarhaus neu'n fygythiol
  • Rhoi pwysau i wahaniaethu ar sail hil
  • Cronni casineb neu ddirmyg hiliol.

Ni fydd unrhyw sylwadau a ystyrir i fod yn cwrdd â'r meini prawf uchod yn cael eu cyhoeddi ar y wefan a chânt eu dychwelyd i'r anfonwr. Yna gall yr anfonwr ystyried a ddylid ailgyflwyno ei gynrychiolaeth heb y sylwadau a ystyriwyd yn annerbyniol.

Os oes gan ymgeisydd unrhyw bryderon sy’n ymwneud â sylwadau a gyhoeddir ar y wefan, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig gan amlinellu’n glir beth yw’r materion sy’n achosi pryder a bydd y mater yn cael ei adolygu’n ofalus. Serch hynny, penderfyniad y Cyngor yw pa unai i gyhoeddi sylwadau ar y wefan ai peidio.

Sut mae llythyrau gyda'r un testun yn cael eu prosesu? (e.e. templedi neu profformas)

Os yw eich llythyr yn un o nifer o lythyrau gyda’r un testun, bydd yn cael ei sganio ac ar gael ar y gofrestr cynllunio ar-lein yn y tab ‘dogfennau’.

Os derbyniwn nifer fawr o lythyrau ni fydd yn bosibl rhestru pob enw yn y maes ‘Teitl Dogfen’ ond byddwn yn nodi faint o enwau a chyfeiriadau sydd wedi’u cynnwys. Bydd pob llythyr yn cael ei ystyried gan y swyddog achos.

Deisebau

Gall deisebau gefnogi cynigion cynllunio yn ogystal â gwrthwynebu a chânt eu cyhoeddi ar ein gwefan. Bydd trefnwyr deisebau yn gyfrifol am sicrhau y cafwyd caniatâd gan y rhai sy'n cwblhau'r ddeiseb i rannu eu data â'r cyrff hynny yr ydych yn bwriadu rhannu'r ddeiseb â hwy. Mae hyn yn unol â darpariaethau Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Os credwch fod llawer o bobl yn cytuno â chi ynglŷn â chais cynllunio gallwch drefnu deiseb.

Os penderfynwch drefnu deiseb, gwnewch yn siŵr:

  • ei fod yn nodi pwrpas y ddeiseb yn glir
  • mae'n rhoi'r rhesymau pam mae pobl yn cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cais
  • y gellir darllen enwau a chyfeiriadau'r bobl sy'n llofnodi'r ddeiseb yn hawdd - nid oes angen llofnodion gan y bydd y rhain yn cael eu golygu
  • bod enw cyswllt a chyfeiriad ar gyfer y sawl sy'n trefnu'r ddeiseb

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (gwefan allanol). Os nad yw’n glir eich bod wedi cael caniatâd penodol llofnodwyr i rannu eu data gyda ni a chyhoeddi eu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi’r ddeiseb yn llawn.

Dim ond am resymau cynllunio y gellir gwneud penderfyniad ar gais cynllunio ac yn unol â'n Cynllun Datblygu ac nid yn seiliedig ar nifer y sylwadau o blaid neu yn erbyn.

Sut mae penderfyniad yn cael ei wneud

Rhaid penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â'n cynllun datblygu - oni bai bod rheswm da iawn dros beidio â gwneud hynny.

Polisïau lleol

Mae gennym Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy'n amlinellu polisïau sy'n cyfeirio'n benodol at yr ardal leol. Darganfyddwch fwy am ein CDLl.

Polisïau cenedlaethol

Bydd angen asesu pob cais yn erbyn Polisïau Cenedlaethol ac mae'r rhain yn ystyriaethau perthnasol.

Bydd y swyddog achos yn delio â mwyafrif y ceisiadau cynllunio o dan Bwerau Dirprwyedig ac yn cael eu cadarnhau gyda Phrif Swyddog Cynllunio. Fodd bynnag, pe bai'r cais yn cwrdd â phwynt sbarduno yn y Cynllun Dirprwyo, gellir cyfeirio'r cais at y Pwyllgor Cynllunio nesaf sydd ar gael. Yna bydd y Swyddog Achos yn ysgrifennu adroddiad gydag argymhelliad i ganiatáu neu wrthod, ac yna bydd panel o Gynghorwyr yn pleidleisio.

Beth sy'n digwydd unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud?

Ar ôl i gais gael ei benderfynu, anfonir hysbysad o’r penderfyniad at yr unigolyn a nododd ei hun fel yr asiant ar y ffurflen gais. Mae copi o'r hysbysiad penderfyniad ar gael ar ein gwefan.

Os caniateir y cais, weithiau mae'n ddarostyngedig i amodau amrywiol a bydd y rhain yn cael eu rhestru yn yr hysbysiad penderfyniad. Os gwrthodir ef, rhestrir y rhesymau dros wrthod hefyd yn yr hysbysiad penderfyniad.

Pan wneir penderfyniad ar gais cynllunio, dim ond rhai materion sy'n cael eu hystyried; cyfeirir at y rhain yn aml fel ‘ystyriaethau cynllunio perthnasol’.

Ystyriaethau cynllunio perthnasol

Mae'r pwys sy'n gysylltiedig ag ystyriaethau perthnasol wrth ddod i benderfyniad yn fater i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad, ond mae'n ofynnol i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad ddangos ei fod, wrth ddod i'w benderfyniad, wedi ystyried yr holl faterion perthnasol.

Yn gyffredinol, mae mwy o bwys yn cael ei roi i faterion a godir sydd â thystiolaeth i’w cefnogi yn hytrach na haeriad yn unig.

Os gellir delio â phroblem a nodwyd trwy amod addas yna mae'n ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried hyn yn hytrach na thrwy gyhoeddi gwrthodiad.

Mae'r canlynol yn faterion a allai fod yn berthnasol i benderfyniad (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd):

  • Polisïau cynllunio lleol, strategol a chenedlaethol a pholisïau yn y Cynllun Datblygu
  • Cynlluniau newydd sy'n dod i'r amlwg sydd eisoes wedi bod trwy o leiaf un cam o ymgynghori cyhoeddus
  • Ymgynghoriad cynllunio cyn ymgeisio a gynhelir gan, neu ar ran yr ymgeisydd
  • Gofynion yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Llywodraeth - cylchlythyrau, gorchmynion, offerynnau statudol, arweiniad a chyngor
  • Penderfyniadau apêl blaenorol ac adroddiadau Ymchwiliadau Cynllunio
  • Egwyddorion Cyfraith Achos a gynhelir trwy'r Llysoedd
  • Colli golau haul (yn seiliedig ar ganllaw’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu)
  • Cysgodi / colli golygfa ar draul amwynder preswyl (ond nid trwy golli'r olygfa fel y cyfryw)
  • Tros-edrych a cholli preifatrwydd
  • Materion priffyrdd: cynhyrchu traffig, mynediad i gerbydau, diogelwch priffyrdd
  • Sŵn neu aflonyddwch sy'n deillio o ddefnydd, gan gynnwys yr oriau gweithredu arfaethedig
  • Arogleuon a mygdarth
  • Cynhwysedd seilwaith ffisegol, e.e. yn y systemau draenio neu ddŵr cyhoeddus
  • Diffygion mewn cyfleusterau cymdeithasol, e.e. lleoedd mewn ysgolion
  • Storio a thrin deunyddiau peryglus a datblygu tir halogedig
  • Colled neu effaith ar goed
  • Effaith niweidiol ar fuddiannau cadwraeth natur a chyfleoedd bioamrywiaeth
  • Effaith ar adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth
  • Defnyddiau anghydnaws neu annerbyniol
  • Ystyriaethau ariannol lleol yn cael eu cynnig fel cyfraniad neu grant
  • Cynllun a dwysedd dyluniad yr adeilad, ymddangosiad gweledol a deunyddiau gorffen
  • Tirlunio annigonol neu amhriodol neu fodd o gau tir
Ystyriaethau cynllunio amherthnasol

Mae'r canlynol yn faterion nad ydynt yn berthnasol i'r penderfyniad:

  • Materion a reolir o dan reoliadau adeiladu neu ddeddfwriaeth arall nad yw'n un gynllunio e.e. sefydlogrwydd strwythurol, manylion draenio, rhagofalon tân, materion sy'n dod o dan drwyddedau ac ati.
  • Materion preifat rhwng cymdogion e.e. anghydfodau tir / ffin, difrod i eiddo, hawliau mynediad preifat, cyfamodau, hawliau hynafol a hawliau eraill i olau ac ati.
  • Problemau sy'n codi o gyfnod adeiladu unrhyw waith, e.e. sŵn, llwch, cerbydau adeiladu, oriau gwaith (a gwmpesir gan y Deddfau Rheoli Llygredd).
  • Gwrthwynebiad i egwyddor datblygu pan fydd hyn wedi'i setlo gan ganiatâd cynllunio amlinellol neu apêl
  • Amgylchiadau personol yr ymgeisydd (oni bai eu bod yn eithriadol o berthnasol ac yn eglur, e.e. darparu cyfleusterau i rywun ag anabledd corfforol)
  • Gwrthwynebiadau / sylwadau a wnaed yn flaenorol ynghylch safle neu gais arall
  • Camliwio ffeithiol o'r cynnig
  • Gwrthwynebiad i gystadleuaeth busnes
  • Colli gwerth eiddo
  • Colli golygfa

Yr hawl i weld gwybodaeth

Cofiwch fod yr holl sylwadau a dderbynnir, gan gynnwys unrhyw ffotograffau neu wybodaeth gefnogol arall, ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus; ni ellir delio â hwy’n gyfrinachol. Os yw’r ymgeisydd yn apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio, mae’n rhaid i’r cyngor yrru unrhyw sylwadau yr ydych chi wedi eu gwneud at yr Arolygiaeth Gynllunio; gallant gyhoeddi'r rhain ar eu gwefan a’u gyrru ymlaen at yr ymgeisydd hefyd. Cofiwch sicrhau nad ydych ond yn cyflwyno gwybodaeth yr ydych yn hapus i eraill ei ddarllen. Os ydych yn cyflwyno gwybodaeth bersonol sy’n perthyn i drydydd parti, cofiwch sicrhau fod gennych eu caniatâd i wneud hynny.

Hysbysiad Hawlfraint

Gwarchodir y cynlluniau, lluniau a’r ddogfennaeth a gyhoeddir ar y tudalennau hyn gan Hawlfraint. 

Ni allwch ond defnyddio’r deunydd- a lawrlwythir a/neu a argraffir i ddibenion ymgynghori - er mwyn cymharu ceisiadau cynllunio presennol gyda chynlluniau blaenorol, ac i wirio pa un ai a yw datblygiadau wedi eu cwblhau yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd. Ni ddylid gwneud copïau pellach heb ganiatâd clir gan berchennog yr hawlfraint.