Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd: Mehefin 2026
Mae Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018 – 2033 yn cael ei baratoi ac mae cynnydd da wedi’i wneud er gwaethaf yr heriau. Mae gwaith yn mynd rhagddo i baratoi’r sylfaen dystiolaeth ac i ddatblygu'r polisïau. Mae cyflwyno yn erbyn y amserlen ddiweddaraf a gytunwyd yn 2022 wedi cael ei rwystro gan nifer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor fel y pandemig a hwyrni yn cyhoeddi polisi cenedlaethol. Yn ogystal, mae tystiolaeth newydd wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Amcanestyniadau Aelwydydd diweddaraf ac mae angen ystyried effaith y rhain cyn gwneud unrhyw beth arall.
Mae’r Cyngor yn adolygu’r gwaith sydd ar ôl i symud y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ei flaen a’r adnoddau sydd eu hangen i wneud hynny.
Ar ôl cytuno ar y ffordd ymlaen, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru a bydd pawb sydd wedi gofyn am gael bod ar restr bostio’r CDLl yn cael eu hysbysu.
Nid oes unrhyw argymhelliad na phenderfyniad wedi’i wneud o ran unrhyw safle ymgeisiol a gyflwynwyd. Bydd cynigwyr safleoedd yn derbyn gohebiaeth ynglŷn â’u safleoedd unwaith y bydd ffordd ymlaen wedi’i chytuno arni.
CDLl 2006 - 2021 a dogfen Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 yw’r cynllun datblygu ar gyfer Sir Ddinbych nes bydd CDLl newydd wedi’i fabwysiadu.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y CDLl newydd ofyn am gael eu cynnwys ar ein rhestr bostio drwy e-bostio polisicynllunio@sirddinbych.gov.uk.