Chwiliadau’r awdurdod lleol

Pan fyddwch yn prynu eiddo neu ddarn o dir, bydd eich cyfreithiwr yn gofyn am chwiliad awdurdod lleol i weld a oes yna unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol sy’n effeithio ar y tir neu’r eiddo. Mae hyn i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw faterion lleol fel na fydd yna unrhyw beth annisgwyl cudd yn codi.

Sut i gyflwyno chwiliad

Gellir cyflwyno chwiliadau llawn i ni ar-lein a thalu amdanyn nhw un ai ar gyfrif neu gerdyn debyd/credyd.

Cyflwyno chwiliad’r awdurdod lleol ar-lein

Taliadau (yn cynnwys TAW)

  • Chwiliad llawn (LLC1 & CON29R) (Eiddo preswyl): £140
  • Chwiliad llawn (eiddo masnachol): £140
  • LLC1: £4
  • CON29O (Q.4 to 21): £12 y cwestiwn
  • CON29O (Q.22): £30

Os ydych yn ymgeisydd sydd yn derbyn budd-daliadau y wladwriaeth, bydd y taliadau hyn ddim yn berthnasol.

Os na fyddwch chi’n siŵr a ydi cyfeiriad yn Sir Ddinbych ai peidio, gallwch gysylltu â ni efo’r manylion sydd gennych chi ac fe geisiwn ni ffeindio hynny i chi.

Byddwn yn anelu at gwblhau a dychwelyd eich chwiliad o fewn 7 diwrnod gwaith. Bydd y chwiliad yn gwirio am unrhyw geisiadau am ganiatâd cynllunio, ceisiadau am reoliadau adeiladu, Gorchmynion Cadw Coed ac unrhyw faterion eraill y gofynnir amdanyn nhw.

Mae yna 3 math o chwiliad 

Ffurflen LLC1

Mae’r chwiliad yma’n gofyn am wybodaeth o’r gofrestr am yr holl bridiannau tir lleol sydd wedi eu cofrestru yn erbyn eiddo, er enghraifft, caniatâd cynllunio, gorchmynion cadw coed, grantiau ac ardaloedd cadwraeth. 

Chwiliad Llawn
(ffurflen LLC1 a ffurflenni CON29R ac CON29O)

Mae’r chwiliad llawn yn cynnwys y chwiliad sylfaenol o’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn ogystal â rhestr ychwanegol o ymholiadau safonol ar gyfer yr awdurdod lleol - 16 o gwestiynau penodol (ffurflen CON29R) a 19 o gwestiynau opsiynol (ffurflen CON29O). Mae’r chwiliad hwn yn darparu’r holl wybodaeth ar ffurflen LLC1 yn ogystal â gwybodaeth sy’n ymwneud â hanes cynllunio, ffyrdd a materion amgylcheddol. 

Sylwch nad ydym yn gallu darparu copïau o’r ffurflenni hyn.

Chwiliad personol

Mae chwiliad personol yn cynnwys gwybodaeth o’r gofrestr pridiannau tir lleol yn unig. Fe wneir y chwiliadau hyn gan gwmnïau preifat, ar wahân i’r Cyngor. Y cwmnïau chwilio preifat hyn sy’n gyfrifol am gynnwys y chwiliadau yma, nid y Cyngor.

Nid oes angen apwyntiad.

Arweiniad i Gwmnïau Chwilio Personol (PDF, 402KB)

Cynlluniau

Wrth gyflwyno chwiliad mae’n rhaid i chi gyflwyno cynllun lleoliad A4/A3 ar sail yr Arolwg Ordnans gan amlinellu cwrtil yr eiddo/tir y mae angen ei chwilio mewn coch. Marciwch h.y. lliwiwch/croeslinellwch unrhyw ffyrdd sydd wedi’u rhestru ym Mlwch C ar y cynllun. Os ydych yn cyflwyno cais i ni trwy’r post, nid oes angen darparu ond un copi o’r cynllun.

Ffyrdd eraill o chwilio

Gallwch hefyd gyflwyno chwiliad ar-lein drwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS) neu drwy ‘TM Official Search Services’.