Datblygiadau cynllunio sy’n cael effaith o ran draenio

Mae’n rhaid cyflwyno gwybodaeth fanwl gydag unrhyw gais cynllunio sydd â goblygiadau draenio. Gofynnwn am hyn gan fod yn rhaid i ninnau wneud asesiad manwl o effaith pob datblygiad sydd angen caniatâd cynllunio ar ddraenio dŵr budr a dŵr wyneb. Caiff y materion hyn eu hystyried wrth benderfynu ceisiadau cynllunio. Mae hyn yn cynnwys arfarnu unrhyw oblygiadau o ran llifogydd.

Beth sydd angen ichi ei gynnwys gyda’ch cais cynllunio?

Er mwyn asesu effaith datblygiad o ran draenio, ac er mwyn osgoi unrhyw oedi yn y drefn o ymgynghori â chyrff technegol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a pheirianwyr draenio’r Cyngor, rydym wedi llunio holiadur Strategaeth Draenio y dylid ei gwblhau a’i gynnwys gyda phob cais cynllunio.

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn orfodol ar gyfer pob datblygiad newydd sy’n cynnwys mwy nag un annedd, neu safle adeiladu sy’n fwy na 100 metr sgwâr. Mae’n rhaid ichi wneud cais i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer datblygiadau fel hyn.

Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau holiadur strategaeth draenio cyn gwneud cais i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

Dysgwch fwy am Systemau Draenio Cynaliadwy a sut i wneud cais i'w cymeradwyo.

Holiadur Strategaeth Draenio

Mae’r holiadur yn ymdrin â materion sydd a wnelont â draenio dŵr budr a dŵr wyneb, ac mae angen ichi ateb y cwestiynau i gadarnhau pa drefniadau a gynigir, a rhoi cyfiawnhad dros ddewis y system dan sylw.

Efallai y bydd gofyn ichi ddarparu Asesiad o’r Effaith ar Ddraenio fel dogfen dechnegol ar wahân i ategu’r wybodaeth yn yr holiadur, y cynlluniau a’r dogfennau atodol.

Siaradwr ag arbenigwr ym maes draenio os dymunwch gael mwy o wybodaeth ynglŷn â beth i’w gynnwys gyda’ch cais.

Holiadur strategaeth draenio(MS Word, 17KB)