Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn anelu i reoli glawiad mewn ffordd tebyg i brosesau naturiol, gan wneud defnydd o’r tirwedd a llystyfiant naturioli reoli llif a maint dŵr wyneb Gall Systemau Draenio Cynaliadwy gynnig nifer o fanteision gan gynnwys:

  • Lleihau perygl llifogydd;
  • Ansawdd dŵr gwell;
  • Cyfleoedd i greu cynefin,
  • Bioamrywiaeth gwell,
  • Cefnogi lles drwy ddod â bobl yn agosach i fannau cymunedau gwyrdd a glas.  

Mae Atodlen 3 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (gwefan allanol) yn gwneud Systemau Draenio Cynaliadwy yn ofyniad gorfodol ar bob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag un annedd neu ardal adeiladu mwy na 100m2.  Mae’r ddeddf yn berthnasol os ydych yn ddatblygwr, asiant neu’n unigolyn sy’n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad. 

Mae’n rhaid i ddatblygiadau newydd (0 7 Ionawr 2019) gyda mwy nag un annedd neu ardal adeiladu mwy na 100mgael:

  • Systemau draenio cynaliadwy i reoli dŵr wyneb ar y safle.
  • Systemau draenio dŵr wyneb a ddyluniwyd ac adeiladwyd yn unol â safonau gorfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy
  • Cymeradwyo’r systemau draenio dŵr wyneb gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae’n rhaid cael cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar wahân i ganiatâd cynllunio.Mae’n rhaid derbyn cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a chaniatâd cynllunio cyn dechrau adeiladu.

Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Awdurdodau Lleol yw’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a ni yw’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer Sir Ddinbych.  Mae Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn sicrhau bod draenio wedi'i ddylunio a'i adeiladu yn unol â'r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a;

  • darparu gwasanaeth cyn gwneud cais i drafod eich cynnig
  • gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae gwaith adeiladu yn cynnwys goblygiadau draenio, a
  • mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb
  • pwerau i archwilio systemau a chymryd camau gorfodi lle bo’r angen

Cyn ymgeisio am gymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell eich bod yn ymgynghori â’r Awdurdod Cynllunio Lleol a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy o’r cam cyn gwneud cais ymlaen.  Mae hyn er mwyn sicrhau;

  • bod y dyluniad System Draenio Cynaliadwy yn addas ac yn unol â safonau cenedlaethol
  • cynllun safle digonol
  • Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae cymeradwyaeth SAB ar wahân i’r broses cais cynllunio. Rydym wedi datblygu holiadur strategaeth draenio ac rydym yn argymell eich bod yn ei gyflwyno gydag unrhyw gais cynllunio cyn ymgeisio am gymeradwyaeth SAB.

Cael gwybod mwy a lawrlwytho’r holiadur strategaeth draenio ar gyfer datblygiadau gydag effeithiau draenio

Sut i dderbyn cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Byddwch angen llenwi ffurflen gais llawn SuDS ar gyfer ymgeisio am gymeradwyaeth SAB. Gallwch lenwi ffurflen cyn gwneud cais SuDS i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a’r hyn sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais llawn.

Cyn Ymgeisio am System Draenio Cynaliadwy

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwn cyn cyflwyno eich cais llawn, gan y gall gyfyngu oedi cyn cymeradwyo a lleihau costau yn y tymor hir.

Ffurflen cyn gwneud cais System Draenio Cynaliadwy (MS Word, 237KB)

Cais Llawn System Draenio Cynaliadwy  

Ffurflen gais llawn System Draenio Cynaliadwy (MS Word, 236KB)

Ffioedd cais llawn Systemau Draenio Cynaliadwy

Gweler y ffioedd ymgeisio ar gyfer ceisiadau Systemau Draenio Cynaliadwy (gwefan allanol)

Cymeradwyo amodau Systemau Draenio Cynaliadwy

Ffurflen gais cymeradwyo amodau Systemau Draenio Cynaliadwy (MS Word, 155KB)

Lle nad oes angen cymeradwyaeth SAB

Nid ydych angen ymgeisio am gymeradwyaeth SAB os:

  • nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich datblygiad a bod yr ardal adeiladu yn llai na 100m2
  • Mae eich datblygiad ar gyfer tŷ annedd sengl, neu fath arall o adeiladu, syn cynnwys darn o dir llai na 100m2
  • mae eich datblygiad wedi derbyn caniatâd cynllunio cyn 7 Ionawr 2019
  • Penderfynwyd rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer eich datblygiad (gyda neu heb unrhyw amodau am fater wedi'i neilltuo)
  • mae gan eich datblygiad gais dilys a dderbyniwyd gennym ni erbyn 7 Ionawr 2019, ond ni wnaed penderfyniad arno.