Siarter cydymffurfiaeth cynllunio: cynnwys a rhagair
Cynnwys
Rhagair
Fel Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, rwy’n croesawu’r diweddariad i’r siarter hynod ddefnyddiol hon. Nod y siarter yw bod yn ganllaw i’r rhai sydd ynghlwm â phroses cydymffurfio â rheolau cynllunio ac mae’n adlewyrchu ein hadnoddau a’n blaenoriaethau ni. Mae’n hollbwysig bod y Cyngor yn parhau i fod ag agwedd gymesur tuag at reoleiddio, gan geisio taro cydbwysedd rhwng gwarchodaeth amgylcheddol a chefnogi busnes a thwf. Mae’r siarter hon yn rhoi cyngor defnyddiol i rai sy’n gwneud cwynion am achosion honedig a niweidiol o dorri rheolau cynllunio a rhai sydd o bosib’ wedi torri rheolau cynllunio. Mae'r broses gydymffurfio ym maes cynllunio’n un gymhleth ac yn aml iawn yn cymryd llawer o amser. Rwy’n gobeithio y bydd y siarter hon yn rhoi arweiniad i’r rheiny sydd ynghlwm ac yn rheoli disgwyliadau rôl y Cyngor yn hynny.
Y Cynghorydd Alan James, Rhagfyr 2024