Siarter cydymffurfiaeth cynllunio: cyflwyniad

Ewch yn syth i:

Pwrpas y siarter cydymffurfiaeth

Mae’r gyfundrefn gynllunio’n bodoli i reoleiddio datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd. Mae polisïau cynllunio’n cael eu mabwysiadu’n genedlaethol ac yn lleol i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio a’i ddatblygu’n briodol a chyfrifol. Mae ceisiadau am ganiatâd cynllunio’n cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ac yn cael eu barnu’n erbyn y polisïau hyn sydd wedi’u mabwysiadu.

Nid yw pawb yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio pan ddylent. Dyma lle mae swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio’n berthnasol. Mae’r siarter hwn yn nodi sut mae’r Cyngor yn ceisio ymdrin ag effeithiau niweidiol gwaith heb ei awdurdodi trwy sicrhau bod polisïau cynllunio’n cael eu rhoi ar waith yn gyfatebol ac yn gadarn.

Prif bwrpas y siarter yw helpu rhai sy’n gwneud cwyn, rhai sy’n cael eu cyhuddo o dorri rheolau a phartïon cysylltiedig eraill i ddeall sut mae’r swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio’n gweithio. Mae’r Cyngor yn dymuno gweithio ochr yn ochr â budd-ddeiliaid lleol i unioni gwaith heb ei awdurdodi, gan ddeall mai cydweithio yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin ag achosion o dorri rheolaeth gynllunio. Mae cyngor i rai sy’n gwneud cwyn yn adran 2 a chyngor i rai sydd wedi’u cyhuddo o dorri’r rheolau yn adran 3.

Yn ôl i frig y dudalen

Beth yw torri rheolaeth gynllunio?

Mae torri rheolaeth gynllunio wedi’i ddiffinio yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel: “ymgymryd â datblygiad heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y mae’r caniatâd cynllunio wedi’i roi’n amodol arni neu arno”.

Mae’r term ‘datblygiad’ hefyd wedi’i ddiffinio yn y Ddeddf fel hyn:

“gwneud gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu weithrediadau eraill yn, ar, dros neu dan dir, neu wneud unrhyw newid sylweddol o ran defnydd unrhyw adeiladau neu dir arall”.

Mewn geiriau eraill, torri rheolaeth gynllunio yw ‘datblygiad’ sydd wedi’i wneud ond sydd a) heb ganiatâd cynllunio, neu b) yn groes i amodau sydd ynghlwm â chaniatâd cynllunio. Dyma’r mathau o achosion mae’r swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio’n ymdrin â nhw’n bennaf (gweler beth rydym a beth nad ydym yn ymchwilio iddo am ragor o wybodaeth).

Nid yw o reidrwydd yn erbyn y gyfraith i wneud gwaith datblygu heb ganiatâd cynllunio. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar ddatblygwyr i ymgeisio am ganiatâd cynllunio cyn dechrau gwaith – ond mae fel arfer yn fwy syml i bawb os ydynt. Os nad ydynt, maent mewn perygl o gamau gorfodi gan y Cyngor er mwyn unioni achos o dorri rheolau. Efallai y bydd trosedd wedi’i gyflawni wedyn os yw datblygwr, wrth dderbyn hysbysiad gorfodi, yn methu â chydymffurfio ag o.

Yn ôl i frig y dudalen

Datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer

Yn eithaf aml, ni fydd gwaith adeiladu neu newidiadau i ddefnydd angen caniatâd y Cyngor yn y lle cyntaf. Mae rhai datblygiadau, ar raddfa fach fel arfer, yn cael eu cyfrif yn ‘ddatblygiadau a ganiateir’ sy’n golygu nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer nifer o estyniadau i dai, er enghraifft. Gall hawliau datblygiadau a ganiateir hefyd fod yn berthnasol i newid defnydd, dros dro ac yn barhaol.

Mae mwy o wybodaeth am hawliau datblygu a ganiateir, ac a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Yn ôl i frig y dudalen

Osgoi prosesau cydymffurfiaeth gynllunio

Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo (neu, mewn achosion prin, y sawl sy’n gwneud y gwaith) yw cydymffurfio â rheoliadau cynllunio. Rhag i’r swyddog cydymffurfiaeth gynllunio orfod ymyrryd, dylai datblygwyr sicrhau bod pob caniatâd priodol wedi’i dderbyn cyn dechrau’r gwaith. Cynghorir datblygwyr hefyd i roi gwybod i gymdogion am eu cynlluniau o’r cychwyn cyntaf.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru’n rhoi llawer o ganllawiau mewn perthynas â phrosiectau cyffredin a allai fod angen caniatâd cynllunio (gwefan allanol)Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi cyngor perthnasol. O’r canllawiau hyn, mae dogfennau canllawiau cynllunio atodol y Cyngor, sydd ar gael drwy’r ddolen, yn benodol ddefnyddiol. Maent yn trafod ystod eang o bynciau ac wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol fathau o gynlluniau. Er enghraifft, efallai y bydd perchnogion busnesau’n gweld y canllaw ar hysbysebu a blaen siopau’n benodol ddefnyddiol. Efallai y bydd y dogfennau am Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth yn ddefnyddiol i ddatblygwyr sy’n gwneud gwaith ar ased treftadaeth. Mae canllawiau manylach ar gael gan ymgynghorydd cynllunio – mae rhestr o asiantau sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych hefyd i’w gweld ar wefan y Cyngor.

Yn ôl i frig y dudalen

Tystysgrifau datblygiadau cyfreithlon

Nid yw’r Cyngor yn rhoi cyngor anffurfiol ar yr angen am ganiatâd cynllunio. Cynghorir datblygwyr sy’n ansicr a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eu prosiect i wneud cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon. Nid yw’r broses hon yr un fath â gwneud cais am ganiatâd cynllunio; mae’n broses llai cymhleth a fydd yn rhoi cadarnhad ffurfiol a yw defnydd, gweithrediad neu weithgaredd penodol yn gyfreithlon o safbwynt cynllunio. Gweler mwy o wybodaeth ynghylch sut i ymgeisio am dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Yn ôl i frig y dudalen

Gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio

Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio sy’n galluogi darpar ddatblygwyr i gael barn anffurfiol ynghylch pa mor dderbyniol yw’r gwaith maent yn bwriadu ei wneud. I drefnu’r gwasanaeth hwn, rhaid i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cyngor cyn ymgeisio sydd ar gael ar wefan y Cyngor. Cyhyd â bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi’i darparu, rydym yn ceisio rhoi ymateb ysgrifenedig i ymholiadau cyn ymgeisio o fewn 21 diwrnod.

Yn ôl i frig y dudalen