Oedi yn yr brosesu ceisiadau ac ymholiadau cynllunio
Mae oedi sylweddol ar hyn o bryd wrth i ni brosesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio ac ymholiadau ffurfiol, gan fod llai o staff yn y Tîm Cefnogi a’r Tîm Swyddogion.
Mae baich achosion uchel iawn gan swyddogion, ond maent yn gweithio’n galed i brosesu’r holl geisiadau cynllunio a’r ymholiadau ffurfiol cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf, gofynnwn i chi edrych ar y wefan yn y lle cyntaf, gan fod yr holl wybodaeth a’r ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan.
Bydd y swyddogion yn cysylltu â’r ymgeiswyr/ asiantiaid os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt neu os bydd ganddynt unrhyw wybodaeth i’w rhannu. Os ydych chi wedi penodi asiant i weithredu ar eich rhan, dylech gysylltu â’ch asiant i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn y lle cyntaf, gan y bydd swyddogion yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r asiant yn unig, fel y nodwyd ar y ffurflen gais.
Mae gofyn i swyddogion flaenoriaethu’r gwaith a fydd yn cyflymu penderfyniadau’r ceisiadau cynllunio ac ymholiadau ffurfiol. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â ni ac eithrio fod gennych wybodaeth bwysig sy’n ymwneud â’r cais, neu fod gennych faterion penodol sydd angen ymateb ar frys. Diolch i chi am eich amynedd parhaus gyda'r mater hwn.
Ni all swyddogion ymateb i ymholiadau anffurfiol na chynnig cyngor ynghylch yr angen am ganiatâd cynllunio a byddant yn cyfeirio cwsmeriaid at y tudalennau Cynllunio ar wefan y Cyngor am ragor o gyngor a gwybodaeth. Fel arall, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu ag asiant cynllunio neu bensaer am gymorth.
Gwneir ceisiadau am ragor o amser a Datganiadau Isadeiledd Gwyrdd (os nad ydynt wedi’u cyflwyno eisoes) drwy ohebiaeth llythyrau cydnabod, felly gofynnwn yn garedig eich bod yn gwirio’r ohebiaeth hon. Byddem yn hynod ddiolchgar pe baech yn ymateb i’r ceisiadau hyn yn ysgrifenedig, drwy anfon e-bost at planning@denbighshire.gov.uk, gan nodi rhif cyfeirnod a chyfeiriad safle’r cais.
Mae angen Datganiadau Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer penderfynu ar bob cais cynllunio. Os nad oes un wedi’i gyflwyno, bydd y Swyddog yn cysylltu â chi yn nes ymlaen yn y broses i ofyn amdano a bydd hyn yn arwain at ragor o oedi yn y broses.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster a achosir gan yr oedi, ond hoffem atgoffa cwsmeriaid, os ydyn nhw’n bwrw ymlaen ag unrhyw ddatblygiadau heb y caniatâd sydd ei angen, eu bod yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain:
Siarter cydymffurfiaeth cynllunio