Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru: Gwybodaeth i gyflogwyr

Eich helpu chi i greu gweithlu cryfach a mwy cynhwysol
Pa un ai ydych chi'n llenwi swydd wag neu eisiau cefnogi aelod o'ch tîm, rydym ni yma i'ch helpu.
Mae cyflogi a chadw staff yn gallu bod yn anodd. Efallai eich bod chi’n wynebu:
- Anawsterau wrth ganfod ymgeiswyr dibynadwy
- Trosiant staff uchel neu absenoldebau
- Ansicrwydd ynghylch sut i gefnogi gweithwyr gyda chyflyrau iechyd, anableddau neu rwystrau eraill
- Diffyg amser neu adnoddau i ddarparu cefnogaeth yn y gwaith
Sut mae Cysylltu â Gwaith yn gallu helpu
Mae Cysylltu â Gwaith yn wasanaeth wedi'i ariannu llwyr sy'n gweithio gyda chyflogwyr fel chi er mwyn:
- Eich paru ag ymgeiswyr brwdfrydig sy’n barod ac yn awyddus i weithio
- Darparu cefnogaeth un-i-un i chi a’ch gweithwyr i’w helpu nhw i setlo i mewn a llwyddo
- Cynnig cyngor ac arweiniad ar addasiadau rhesymol ac arferion cynhwysol
- Cefnogi staff a all fod yn ei chael hi’n anodd aros mewn gwaith oherwydd heriau iechyd neu bersonol
- Lleihau costau recriwtio drwy’ch helpu chi i ganfod yr unigolyn cywir, y tro cyntaf
Gweithio mewn partneriaeth â rhaglen Cysylltu â Gwaith
Cael canlyniadau go iawn gyda chefnogaeth lwyddiannus:
- Mynediad at gronfa newydd o ymgeiswyr sy’n barod i weithio
- Gwella cyfraddau cadw staff a lles
- Gweithlu sy’n fwy cynhwysol ac amrywiol
- Dim costau i’ch busnes
Bydd Cysylltu â Gwaith yn mynd yn fyw yn nes ymlaen y mis hwn yn Sir Fôn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych. Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan neu dderbyn cymorth.