Ynglŷn â Chysylltu â Gwaith Gogledd Cymru

Nod Cysylltu â Gwaith ydi cefnogi unigolion ag anableddau, problemau iechyd meddwl a chyflyrau cymhleth i ganfod a chadw cyflogaeth â thâl, drwy’r model cyflogaeth â chymorth.
Dydi bod yn rhan o'r rhaglen Cysylltu â Gwaith ddim yn orfodol, ond fe all fod yn fuddiol iawn i bobl sydd eisiau gweithio a manteisio ar gefnogaeth i lwyddo ym myd gwaith.
Beth ydi Cyflogaeth â Chymorth?
Mae cyflogaeth â chymorth yn wasanaeth sy’n cefnogi unigolion gydag anableddau i ganfod a chadw cyflogaeth â thâl. Mae’n cynnwys cefnogaeth bwrpasol i helpu unigolion i ganfod swyddi addas, paratoi ar gyfer cyfweliadau, dysgu tasgau gwaith a goresgyn heriau yn y gweithle. Y nod ydi helpu pobl ag anableddau i gael gwaith hirdymor a bod yn annibynnol.
- Canfod Gwaith: Canfod cyfleoedd gwaith addas yn seiliedig ar sgiliau a dewisiadau unigolion.
- Paratoi ar gyfer Gwaith: Cymorth i ysgrifennu CVs, llwyddo mewn cyfweliad a chyngor ar agweddau eraill o’r broses ymgeisio.
- Hyfforddiant Gwaith: Darparu cefnogaeth yn y gwaith i helpu unigolion i ddysgu sut i wneud tasgau penodol, rhyngweithio yn y gweithle ac addasu i’r amgylchedd gwaith.
- Cymorth i Gyflogwyr: Gweithio gyda chyflogwyr i fynd i’r afael â phryderon, darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anableddau a hwyluso cyfathrebu.
- Cymorth gyda Budd-daliadau: Darparu cyngor ar sut mae cyflogaeth yn gallu effeithio ar fudd-daliadau a’r hawl i fudd-dal.
- Dringo'r Ysgol Yrfa: Helpu unigolion i gynllunio ar gyfer dringo’r ysgol yrfa a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Pam Cysylltu â Gwaith?
Mae'r rhan fwyaf o raglenni cyflogaeth yn canolbwyntio ar "baratoi ar gyfer gwaith" heb unrhyw neu fawr o gefnogaeth yn ystod y gyflogaeth ac i gyflogwyr.
Mae Cysylltu â Gwaith yn cefnogi cyflogwyr a gweithwyr ar hyd y daith waith, gan ganolbwyntio ar ddatrys yr heriau sy'n gallu digwydd ar ddechrau cyflogaeth.
Bydd Cysylltu â Gwaith yn mynd yn fyw yn nes ymlaen y mis hwn yn Sir Fôn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych. Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan neu dderbyn cymorth.