Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru: Gwybodaeth i breswylwyr

Logo: Cysylltu â Gweithio Gogledd Cymru

Mae Cysylltu â Gwaith yn wasanaeth am ddim sy’n gallu’ch helpu chi i ganfod neu gadw gwaith.

Os hoffech chi sgwrs am y gefnogaeth sydd ar gael, cliciwch ar y botwm isod. Bydd rhywun o’n tîm yn cysylltu’n ôl efo chi i siarad am y gefnogaeth gywir ar eich cyfer, a phryd y gallwn ni eich cefnogi.

Sut byddwn yn helpu:

  • Byddwn yn eich helpu i ganfod gwaith addas drwy ganolbwyntio ar eich cryfderau.
  • Byddwn yn eich helpu i gael gwaith â thâl yn gyflym, a’i gadw.
  • Byddwn yn darparu cefnogaeth os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw’ch gwaith.
  • Byddwn yn gweithio gyda’ch cyflogwr i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
  • Byddwn yn gweithio’n agos gyda thimau iechyd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael cefnogaeth gydgysylltiedig ar gyfer eich iechyd, eich lles a’ch gwaith.

Cysylltwch â ni