Cyrsiau a dosbarthiadau Cymraeg

Byddwn yn cefnogi pob gweithiwr nid yn unig i gwblhau’r cwrs 10 awr ar-lein, ond i barhau i ddysgu hyd at gymhwyster lefel Sylfaen (Lefel 2). Dim ond os bydd y rheolwr yn penderfynu bod angen y lefel yma o Gymraeg ar gyfer y swydd y rhoddir caniatâd i symud ymlaen i’r lefel nesaf. Os ydych chi awydd dysgu Cymraeg, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr cyn i chi archebu lle ar gwrs. 

Unwaith y bydd y rheolwr wedi penderfynu pa sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd,  trwy ddefnyddio’r Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg, gall gweithwyr astudio’r cymhwyster Cymraeg perthnasol.

Dyma restr o’r cyrsiau a dosbarthiadau Cymraeg sydd ar gael ar gyfer 2023 i 2024. Os nad ydych yn siŵr pa wersi neu hyfforddiant sy’n addas ar eich cyfer, cysylltwch gyda manon.celyn@sirddinbych.gov.uk i drafod eich opsiynau.

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Croeso i Cymraeg Gwaith

Croeso i Cymraeg Gwaith

Cwrs 10 awr ar-lein i bobl sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg. Mae yna nifer o unedau y byddwch angen eu cwblhau a rhai sydd yn arbenigo mewn sectorau amrywiol o’r sefydliad. Os ydych chi’n gweithio ym maes gwasanaethau gofal mae yna gwrs 10 awr arbennig ar gyfer eich sector chi y dylech ei gwblhau.

Crëwch gyfrif trwy fynd i wefan Dysgu Cymraeg: creu cyfrif (gwefan allanol) a sicrhewch eich bod yn cofnodi eich manylion, derbyniwch y telerau ac amodau a dewiswch Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County Council fel eich cyflogwr. Yna byddwch yn barod i gwblhau'r unedau.

Dyma rai o’r pethau y bydd modd i chi eu dweud:  

  • cychwyn a gorffen sgwrs yn briodol
  • deall a defnyddio brawddegau cyfarwydd megis cyfarchion, dweud diolch a rhoi cyfarwyddiadau
  • deall ymholiadau syml
  • trosglwyddo galwad at gydweithiwr sydd yn siarad Cymraeg
Dysgu Cymraeg Gwaith gyda thiwtor

Dysgu Cymraeg Gwaith gyda thiwtor

Bydd y cyrsiau dwys Dysgu Cymraeg Gwaith yn helpu eich gallu i ddefnyddio Cymraeg a’ch helpu i weithio’n ddwyieithog. Mae lefelau cwrs gwahanol ar gael: 

Lefel 1: mynediad

Cyrsiau i ddechreuwyr gyda phwyslais ar siarad Cymraeg.

Lefel 2: sylfaen

Cyfle i ddysgwyr gryfhau eu sgiliau siarad.

Lefel 3:: canolradd

Mae mwy o sgiliau ysgrifennu, darllen a gwrando’n cael eu cyflwyno yn y lefel hon – ond mae’r pwyslais yn dal i fod ar siarad Cymraeg.

Lefel 4: uwch

Mae cyrsiau’n helpu dysgwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu, ond eto mae’r prif bwyslais ar gryfhau sgiliau siarad.

Lefel 5: hyfedredd

Mae cyrsiau ar gael i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg rhugl sydd eisiau cryfhau eu sgiliau siarad ac ysgrifennu.


Mae yna ymrwymiad amser i fynychu’r cyrsiau hyn sydd gyfystyr â 120 awr y flwyddyn (4 awr yr wythnos), ac yna arholiad. Mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr i fynychu, ac mae’n rhaid i chi gadw at y cytundeb dysgu. Mae’r cyrsiau rhwng staff cynghorau sir y gogledd ddwyrain ac mae’n rhaid cael cyfanswm isafswm o 8 aelod o staff rhwng y cynghorau i sicrhau fod y cyrsiau’n hyfyw ac yn rhedeg: Dysgu Cymraeg: dod o hyd i gwrs (gwefan allanol). Ddim yn siŵr pa gwrs sy’n addas ar eich cyfer? Cysylltwch gyda laura.temple@sirddinbych.gov.uk i drafod.

Os ydych chi’n gweithio ym maes gwasanaethau gofal efallai y bydd yna gyrsiau eraill ar gael.

Cwrs hunan-astudio Cymraeg Gwaith

Cwrs hunan-astudio Cymraeg Gwaith

Mae’r cwrs yn gyfle i’r dysgwr ddilyn yr un nifer o oriau dysgu a’n cyrsiau traddodiadol, ond yn dilyn cyflymder ei hunain. Maent yn gyrsiau anghydamserol.  Mae’r cwrs ar gael ar ddau lefel: Mynediad ar gyfer dechreuwyr a Sylfaen - mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Dysgu Cymraeg: lefelau dysgu (gwefan allanol). Mae cefnogaeth gan Diwtor ar gael i gefnogi’r dysgu.

Crëwch gyfrif trwy fynd i wefan Dysgu Cymraeg: creu cyfrif (gwefan allanol) a sicrhewch eich bod yn cofnodi eich manylion, derbyniwch y telerau ac amodau a dewiswch Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County Council fel eich cyflogwr. Yna byddwch yn barod i gwblhau'r unedau.

Cwrs Adeiladu Hyder (staff ar lefel 1+)

Cwrs Adeiladu Hyder (staff ar lefel 1+)

Ar gyfer unigolion sy'n gallu siarad Cymraeg, ond sydd â diffyg hyder i ddefnyddio'r Gymraeg i gyflawni tasgau gwaith. Cyfres o sesiynau grŵp gyda thiwtor a sesiynau 2 awr wythnosol dros 10-15 wythnos. Bydd cyswllt â thiwtor dros 12 mis a bydd camau pellach i'w hadolygu a'u cytuno ar ôl 12 mis.

Y canlyniad yw newid arfer ieithyddol trwy fagu mwy o hyder i ddefnyddio'r Gymraeg i gwblhau tasgau gwaith.

Crëwch gyfrif trwy fynd i wefan Dysgu Cymraeg: creu cyfrif (gwefan allanol) a sicrhewch eich bod yn cofnodi eich manylion, derbyniwch y telerau ac amodau a dewiswch Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County Council fel eich cyflogwr. Yna byddwch yn barod i gwblhau'r unedau.

Cwrs Cymraeg Gwaith ‘Defnyddio’ (addas ar gyfer lefel 3 i 5)

Cwrs Cymraeg Gwaith ‘Defnyddio’ (addas ar gyfer lefel 3 i 5)

Nod y cyrsiau codi hyder hyn ydy bod mynychwyr yn dychwelyd i'r gweithle a defnyddio eu sgiliau Cymraeg at ddibenion gwaith. Cyflwynir y cyrsiau yn rhithiol dan ofal tiwtoriaid profiadol. Mae lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd yn cael eu cynnal dros 5 niwrnod, o dan arweiniad tiwtor, gydag elfennau o hunan-astudio ar-lein i'w dilyn rhwng sesiynau byw.

Am ragor o wybodaeth, rhestr o'r dyddiadau sydd ar gael ac i gofrestru ewch i: Cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (gwefan allanol).

Cyrsiau eraill

Cyrsiau eraill

Efallai y bydd yna gyfle i chi ddysgu Cymraeg trwy gyrsiau arbennig neu gyrsiau ad-hoc sydd yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliadau amrywiol. Bydd eu manylion i'w gweld ar y dudalen hon a byddant yn cael eu dosbarthu pan fyddant ar gael. Gallai’r rhain gynnwys sesiynau gwyliau ac adolygu, sesiynau arbennig wedi’u haddasu.