Dysgu Cymraeg

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Iaith Gymraeg, er mwyn ymateb yn uniongyrchol i Safonau’r Iaith Gymraeg.

Y weledigaeth yw mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gyda mwy o bwyslais ar gynnwys gofynion Cymraeg penodol ar gyfer swyddi newydd trwy:  

  • gefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau ymhellach er mwyn gallu gweithio’n ddwyieithog yn naturiol ac annog a chefnogi staff heb sgiliau Cymraeg i ddysgu’r iaith dros gyfnod o amser
  • mabwysiadu polisi recriwtio a fydd yn galluogi’r Cyngor i normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg yn ei waith gweinyddu o ddydd i ddydd ac yn y gwasanaethau mae’n eu darparu. Y flaenoriaeth fydd canolbwyntio ar yr adrannau sydd yn cynnig gwasanaeth rheng flaen i gwsmeriaid

Rydym wedi datblygu modiwl E-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Iaith Gymraeg gorfodol sydd yn darparu cefndir i ddatblygiad y Gymraeg.   

Mae cyfle hefyd i weithwyr sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg i gwblhau cwrs ar-lein. Cyfeiriwch at dudalen gwersi Cymraeg.