Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg

Mae’r Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg yn ffordd hawdd o asesu sgiliau iaith yn seiliedig ar y mathau o dasgau cyfathrebu  (darllen, ysgrifennu, siarad a deall) y gall ein gweithwyr eu cyflawni trwy gyfrwng y Gymraeg. Yna caiff ei ddefnyddio i benderfynu pa lefel o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd a pha gwrs y bydd gweithwyr ei angen.  

Fframwaith Sgiliau Iaith

Sgiliau siarad

Lefel 0

Dim lefel bresennol o Sgiliau Cymraeg  ar hyn o bryd.

Lefel 1: mynediad

  • gallu ynganu enwau lleoedd/enwau cyntaf Cymraeg neu arwyddion Cymraeg yn gywir
  • gallu cyfarch a chyflwyno pobl eraill yn Gymraeg
  • gallu dangos cwrteisi ieithyddol trwy agor a chau sgwrs
  • gallu deall a throsglwyddo manylion personol

Lefel 2: sylfaen

  • gallu deall hanfod sgyrsiau yn Gymraeg
  • gallu cyfleu gwybodaeth sylfaenol e.e. tasgau gweinyddol  neu arferol syml
  • deall a throsglwyddo cyfarwyddiadau a chyfeiriadau

Lefel 3: canolradd

  • gallu sgwrsio’n rhannol yn Gymraeg ond yn troi i Saesneg mewn sgwrs i roi gwybodaeth fanwl
  • gallu disgrifio pobl a lleoliadau

Lefel 4: uwch

  • gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn cyfarfodydd o fewn eu maes gwaith a dadlau o blaid eu yn erbyn achos
  • gallu delio â phobl yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi i Saesneg wrth ddelio â sefyllfaoedd cymhleth

Lefel 5: hyfedredd

  • gallu delio’n effeithiol gyda sgwrs gymhleth a chwestiynau yn Gymraeg
  • gallu addasu steil yr iaith i weddu pob sefyllfa ac angen