Rheoli newid

Rydym yn cydnabod yn yr hinsawdd hon o bwysau economaidd ac ansicrwydd ei bod yn anochel y bydd rhaglenni newid yn digwydd a all gynyddu lefelau pryder a dryswch ar gyfer staff o fewn y Cyngor.

Rydym yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod mai pobl yw ein hased mwyaf, ac o ganlyniad rydym wedi ymrwymo i liniaru effeithiau niweidiol y newid er mwyn sicrhau fod ein pobl yn cael yr offer a’r cymorth i ymdopi gyda’r newid yn effeithiol a chynnal eu lles.

Rydym hefyd yn cydnabod bod rôl y gweithiwr yn hanfodol wrth weithredu mentrau newid ac wrth gefnogi’r broses newid. Mae pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol yn hanfodol yn ystod cyfnod o newid.