Rheoli perfformiad

Ffurflen a Theclyn Sgwrsio Un i Un

Rydym yn gwybod mai ein pobl yw’n hased bwysicaf, ac rydych chi a’ch sgiliau, eich profiad a’ch gwybodaeth wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud ac yn ei gyflawni.

Felly, rydym am ganolbwyntio arnoch chi - clywed eich meddyliau, deall eich anghenion a’ch dyheadau - a rhoi amser ac adnoddau penodedig i chi i ganolbwyntio ar hyn.

Bydd cyfarfodydd Un i Un yn eich galluogi i wneud hyn, ac yn eich helpu i gymryd cyfrifoldeb dros eich ymgysylltiad a’ch datblygiad eich hun. Defnyddiwch y cyfle hwn i archwilio beth sy’n bwysig i chi, a chael sgwrs gyda’ch rheolwr am beth sydd ei angen arnoch, a sut gallwn eich cynorthwyo i gyflawni eich amcanion.

Amlder sesiynau Un i Un

Rydym yn argymell bod gweithwyr yn cael sesiwn Un i Un bob mis, fodd bynnag rydym yn deall na fydd hyn yn ymarferol nac yn bosib mewn rhai adrannau. Byddem felly yn awgrymu eich bod yn cael tri chyfarfod Un i Un o fewn cyfnod o 12 mis er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch rheolwr yn cael y cyfle i gael sgwrs.

Ar ddechrau pob cyfnod Un i Un, bydd angen i’r rheolwr a’r gweithiwr benderfynu ar sut i gynnal cyfarfodydd Un i Un, a pha mor aml y dylid eu cynnal.