Camau recriwtio a dethol

Mae’r weithdrefn a pholisi Recriwtio a Dethol yn cynnwys canllawiau, prosesau a ffurflenni ar gyfer rheolwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych wrth recriwtio.

Mae rhestr wirio recriwtio hefyd ar gael.

Camau recriwtio

Cam 1: swydd wag bosibl yn codi

  • Mae’r angen am swydd newydd yn cael ei ystyried. A oes angen llenwi’r swydd hon?
  • Mae swydd-ddisgrifiad newydd yn cael ei adolygu neu gwneir newidiadau sylweddol i swydd-ddisgrifiad sy’n bodoli eisoes.

Cam 2: dechrau’r broses recriwtio

Mae’r rheolwr recriwtio yn llenwi’r ffurflenni canlynol gan ddefnyddio’r templedi a fformat cywir:

Cam 3: cam canolradd

  • Caiff adleoliadau addas eu hystyried gan Adnoddau Dynol Bydd AD yn cysylltu â’r rheolwr recriwtio os oes rhywun addas o’r gronfa adleoli.

Cam 4: llunio rhestr fer

  • Adnoddau Dynol yn cael ffurflenni cais;
  • Caiff ffurflen pennu rhestr fer ei chwblhau’n llawn ar gyfer pob ymgeisydd a’i llofnodi gan y panel pennu rhestr fer.
  • Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn cael ei wirio. Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi dewis yr opsiwn hwn gael eu rhoi ar y rhestr fer os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hanfodol.
  • Caiff y Ffurflen Amserlen Cyfweliad ei chwblhau’n llawn a’i llofnodi gan y rheolwr recriwtio.

Cam 5: paratoi ar gyfer cyfweliad

  • Paratoi Cwestiynau / Canolfan Asesu;
  • Copi o’r ceisiadau ar gyfer y panel, Telerau ac Amodau y swydd yn barod i’w hailadrodd i’r ymgeiswyr;

Cam 6: cyfweliad

  • Caiff ffurflen asesu cyfweliad ei chwblhau’n llawn a’i llofnodi gan y panel;
  • Gwiriadau cyflogaeth ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn cael eu gwneud, gan gynnwys gwiriadau cymhwysedd, gwiriadau cyflogaeth ar gyfer pob ymgeisydd, gan gynnwys cymhwysedd i weithio yn y DU, ID llun.

Cam 7: ar ôl y cyfweliad

  • Yr ymgeisydd / ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod ar lafar;
  • Rhoi gwybod i’r ymgeiswyr aflwyddiannus ar lafar – Rhoi adborth;
  • Ffurflen Benodi yn cael ei chwblhau’n llawn a’i llofnodi gan y rheolwr recriwtio – e-bostio nodiadau’r cyfweliad a'r ffurflenni asesu i Adnoddau Dynol;
  • Gwirio'r geirda (nid yw'n berthnasol i ysgolion sydd â'u hadran eu hunain);
  • Ffurflenni Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn cael eu llenwi gan y gweithiwr a’u gwirio gan AD.

Ffurflen benodi (MS Word, 162KB)

Cysylltu â ni

Dogfennau cysylltiedig