Sir Ddinbych yn Gweithio: Diwrnod y Lluoedd Arfog

Ydych chi'n gyn-filwr sy'n chwilio am gefnogaeth, cyngor, cyfleoedd newydd neu gyfle i gysylltu ag eraill? Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngorsaf VIBE (Y Rhyl), gan ddod â chyn-filwyr a sefydliadau lleol ynghyd i gynnig cefnogaeth ymarferol, gwybodaeth a chyfleoedd.

Beth i’w ddisgwyl:

Yn ystod Diwrnod y Lluoedd Arfog, gallwch ddisgwyl:

  • amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau cefnogi mewn un lleoliad hygyrch
  • cyfle i siarad yn uniongyrchol â sefydliadau am eich amgylchiadau
  • cyngor a gwybodaeth ymarferol ynghylch tai, budd-daliadau, cyllid, cyflogaeth a lles
  • cymorth i ddeall pa gefnogaeth y gallech fod â hawl iddo
  • cyfleoedd i ddysgu am gyflogaeth a gwasanaethau lleol eraill
  • gweithgareddau gan Barod, gan gynnwys gweithgaredd hamddenol ar arddull Lego
  • bwyd a lluniaeth
  • cyfle i gwrdd â chyn-filwyr eraill a chysylltu â nhw mewn awyrgylch croesawgar

Baner Union Jack y Deyrnas Unedig yn chwifio yn erbyn awyr las glir.

Bydd cefnogaeth a chyngor ar gael gan y canlynol (gyda disgwyl i ragor o sefydliadau ymuno â ni): 

  • Combat Stress
  • Help for Heroes
  • Poppy Factory
  • Cyngor ar Bopeth
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Cyfeirwyr y Groes Goch a Woody’s

Ble bynnag y bo modd, ein nod yw sicrhau eich bod yn gadael gyda mwy na dim ond gwybodaeth. Cewch y cyfle i siarad â'r bobl iawn, nodi eich anghenion a darganfod posibiliadau ar gyfer eich cam nesaf.

Pwy all fynd?

Mae croeso i gyn-filwyr o bob cangen o'r Lluoedd Arfog.

Pryd a ble mae’r ffair swyddi nesaf yn cael ei chynnal?

Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Mercher 28 Hydref 2026, rhwng 11am a 2pm yng Ngorsaf VIBE, y Rhyl.

Sut i gyrraedd Gorsaf VIBE.

Sut i gymryd rhan

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim; fe’ch anogir i gofrestru ymlaen llaw drwy gysylltu â ni, er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer y diwrnod.

Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
  • Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
  • Ffoniwch ni - 01745 331438

Dilynwch ni

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo  Logo Cysylltu â Gwaith, Ariennir gan Lywodraeth y DU working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy  Logo Sir Ddinbych yn Gweithio