Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Digwyddiadau gan Sir Ddinbych yn Gweithio i helpu i wella eich hyder a’ch lles.
Gwybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gychwyn neu ddatblygu eich gyrfa.
Digwyddiadau i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau am swyddi a rhoi gwybodaeth i chi am yrfaoedd.
Os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n chwilfrydig am yr hyn sydd ar gael, ein ffair swyddi yw'r lle perffaith i ddechrau.
Mae ein cyrsiau hyfforddi yn cwmpasu lefelau sgiliau a sectorau amrywiol, o weithdai i ddechreuwyr i ddatblygiad proffesiynol uwch. Darperir bob cwrs gan hyfforddwyr profiadol sy’n deall heriau’r gweithle modern. Yn ogystal, mae llawer o’n rhaglenni yn rhai hyblyg, a chaiff dewisiadau ar-lein ac yn bersonol eu cynnig, i gyd-fynd â’ch amserlen.
Trwy ymuno â rhaglen hyfforddi Sir Ddinbych yn Gweithio, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, yn magu hyder ac yn cael mynediad at gyfleoedd newydd. P’un a ydych chi’n chwilio am waith llawn amser, newid gyrfa, neu’n dymuno gwella’ch datblygiad personol, rydym yn cynnig hyfforddiant i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Cymerwch y cam nesaf ar eich siwrnai gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a gwireddwch eich potensial heddiw.
Browser does not support script.