Sir Ddinbych yn Gweithio: Ffair Swyddi
Meddwl am y cam nesaf yn eich gyrfa? Ymunwch â ni yn Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio a chwrdd â chyflogwyr lleol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleoedd mewn nifer o sectorau. P’un a ydych chi’n chwilio am waith llawn-amser, rhan-amser neu dymhorol neu’n awyddus i gael hyfforddiant, bydd y digwyddiad yn gymorth ichi gymryd y cam nesaf.
Beth i’w ddisgwyl:
- cwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb
- ymchwilio i swyddi sydd ar gael
- cael gwybod am hyfforddiant a gwasanaethau cefnogi
- cael cyngor ynglŷn â llunio CV a llenwi ffurflenni cais.
Pwy sy'n cael dod?
P’un a ydych chi’n chwilio am waith neu ddim ond yn chwilfrydig ynglŷn â beth sydd ar gael, mae ein Ffair Swyddi’n lle gwych i roi cychwyn arni.
Mae ein Ffair Swyddi’n ddelfrydol ar gyfer:
- pobl o bob oed a phrofiad sy’n chwilio am waith
- pobl sy’n chwilio am yrfaoedd neu gyfleoedd newydd
- unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflogaeth leol a datblygu sgiliau.
Pryd a ble mae'r ffair swyddi nesaf yn cael ei chynnal?
Cynhelir ein Ffair Swyddi nesaf ddydd Mercher 30 Medi 2026 rhwng 10am a 2pm ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.
Dyma gyfeiriad Marchnad y Frenhines:
Sussex Street
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1SE
Sut i gymryd rhan
Gall unrhyw un ddod i’n Ffair Swyddi ni. Does dim angen apwyntiad – maen nhw am ddim.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
- Ffoniwch ni - 01745 331438
Dilynwch ni