Ymgeisio am swyddi gyda ni

I fynd ar y rhestr fer am gyfweliad mae’n rhaid ichi gynnwys y wybodaeth iawn yn eich ffurflen gais.

Canllawiau cyffredinol

  • Dylid cwblhau ceisiadau drwy ein dull ar-lein. Wedi ichi greu cyfrif, bydd y system yn cadw eich manylion fel bod eich cais nesaf yn rhwyddach.
  • Llenwch bob rhan o’r ffurflen, ac os oes adran nad yw’n berthnasol yna ysgrifennwch ‘Amherthnasol’ yn y lle gwag.
  • Nid ydym yn derbyn CVs ar eu pen eu hunain, ond gallwch gyflwyno un gyda’ch ffurflen gais drwy e-bostio cyswlltad@sirddinbych.gov.uk.
  • Cofiwch lenwi eich ffurflen monitro cyfle cyfartal; cedwir y manylion yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant ond yn ein helpu i gyflawni ein dyletswydd i gyhoeddi adroddiadau Cydraddoldeb nad ydynt yn datgelu unrhyw enwau.
  • Darllenwch y ffurflen gais yn fanwl, ynghyd â’r manylion am yr unigolyn a’r hysbyseb, i gael syniad sut fath o swydd rydych chi’n ymgeisio amdani.
  • Meddyliwch pam fod gennych chi ddiddordeb yn y swydd, a pa sgiliau a phrofiad y gallech eu cynnig.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch cais mewn pryd.
  • Llenwch y ffurflen mewn ffordd broffesiynol, drefnus a chadarnhaol.

Os oes gennych chi anabledd a bod arnoch angen ffurflen gais mewn fformat gwahanol, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar 01824 706200 neu cyswlltad@sirddinbych.gov.uk.

Dylech gael neges awtomatig i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich ffurflen gais. Os na gewch chi neges wedi cyflwyno’ch cais, cysylltwch ag Adnoddau Dynol rhag ofn nad ydym wedi’i dderbyn. Edrychwch yn eich ffolder sbam cyn ffonio.

Byddwn yn anfon pob gohebiaeth i’r cyfeiriad e-bost y defnyddioch chi i greu’ch cyfrif, gan gynnwys unrhyw wahoddiad i gyfweliad a manylion contract cyflogi.

Canllawiau: Ffurflen Gais am Swydd (PDF, 266KB)

Recriwtio Mwy Diogel

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud rhai gwiriadau penodol ar gyfer pawb sy’n ymgeisio am swydd a phawb sy’n dechrau gweithio gyda ni, fel rhan o’n trefn Recriwtio Mwy Diogel.

Un o’n blaenoriaethau yw sicrhau fod yr holl holl staff a gwirfoddolwyr yn cadw o fewn ffiniau priodol a phroffesiynol wrth gyflawni eu dyletswyddau. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn asesu materion sydd a wnelont â diogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn.

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn chwilio cofnodion yr heddlu yn ogystal â gwybodaeth am restri gwahardd, ac yna’n rhoi tystysgrif i’r ymgeisydd a fydd yn cael ei hystyried wrth benderfynu ynghylch recriwtio. Os oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd, bydd yr hysbyseb a’r swydd-ddisgrifiad yn dweud hynny, ac yn manylu ar ba fath o wiriad a manylder sy’n ofynnol.  

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnal pedwar math o wiriad:

  • gwiriad sylfaenol, sy’n dangos unrhyw gollfarnau heb ddarfod a rhybuddion ag amodau (i weld a yw collfarn wedi darfod ai peidio, ewch i www.disclosurecalculator.org.uk (gwefan allanol))
  • gwiriad safonol, sy’n dangos collfarnau heb ddarfod ac wedi darfod, rhybuddion, ceryddon a rhybuddion terfynol
  • gwiriad manylach, sy’n dangos yr un wybodaeth â’r gwiriad safonol yn ogystal ag unrhyw wybodaeth gan heddlu lleol y credir sy’n berthnasol i’r swydd
  • gwiriad manylach a gwiriad o restri gwahardd, sy’n dangos yr un wybodaeth â’r gwiriad manylach a hefyd yn dweud a yw’r ymgeisydd ar restr wahardd o ran gwneud y gwaith hwn.

Mae’r GDG yn defnyddio system ffiltro, sy’n golygu yn dibynnu ar y math o GDG, na fydd rhai rhybuddion, cerydd, amodau yn cael eu datgelu, gan eu bod yn cael eu hystyried wedi eu ‘diogelu’ o dan y Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975. Gweler y Polisi GDG neu Gwefan GOV.UK (gwefan allanol) am fwy o wybodaeth.

Polisi: gwasanaeth datgelu a gwahardd (GDG) (PDF, 1.65MB)

Pan mae’r swydd yn gofyn am weithio gyda phlant/pobl ifanc/oedolion diamddiffyn, gwneir gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a bydd unrhyw gynnig o swydd yn dibynnu ar dystiolaeth tystysgrif GDG foddhaol. 

Dysgwch fwy am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gwefan allanol)

Hawl i Weithio yn y Deyrnas Gyfunol

Gweler: Hawl i weithio yn y DU

Geirda

Mae unrhyw gynnig o swydd yn dibynnu ar gael geirda boddhaol gan eich cyflogwyr blaenorol. Byddwn yn cysylltu â’ch dau gyflogwr diwethaf am eirda, neu ddigon i gyfrifo am y tair blynedd ddiwethaf, p’un bynnag sydd fwyaf. O ran swyddi sy’n gofyn am weithio â phlant a/neu oedolion diamddiffyn, a bod yr ymgeisydd wedi gweithio yn y maes o’r blaen, yna mae’n rhaid fod a wnelo un geirda â’r gwaith a wnaethant gyda phlant a/neu oedolion diamddiffyn. Ar gyfer swyddi sy’n gofyn am weithio â chleientiaid gofal cymdeithasol, gofynnir am eirda ychwanegol.

Polisi recriwtio a dethol (PDF, 1.77MB)

Cymwysterau

Gyda llawer o swyddi gyda’r Cyngor mae gofyn i’r ymgeisydd feddu ar gymwysterau penodol. Os yw’r pecyn ymgeisio’n sôn am gymwysterau hanfodol, dylid cyflwyno’r tystysgrifau gwreiddiol i’r rheolwr yn y cyfweliad. Rydym yn gwybod fod gwahanol ffyrdd o ennill amryw gymwysterau.

Dysgwch fwy am gymwysterau cyfwerth (gwefan allanol)

Cymorth a chyngor i geisiwyr swyddi

Mae llawer o sefydliadau’n cynnig cymorth a chyngor i helpu pobl ddychwelyd i’r gwaith neu ddatblygu eu gyrfaoedd.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn gweithio’n darparu amrywiaeth o gymorth i bobl sydd dan fygythiad o dlodi ac sydd arnynt angen cyngor a chymorth, naill ai wrth ddod o hyd i waith neu ddatblygu eu gyrfaoedd.

Dysgwch fwy am sut allant eich helpu chi

Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru’n darparu cyngor, cyfarwyddyd, hyfforddiant a chefnogaeth i’ch helpu i ddechrau’ch gyrfa neu’i datblygu.

Ewch i gyrfacymru.llyw.cymru