Digartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref?

O dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan Gyngor Sir Dinbych gyfrifoldebau penodol tuag at bobl sy'n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd.

Yn gyfreithiol rydych chi'n ddigartref os ydych chi:

  • heb unrhyw le i fyw yn y wlad hon nac unrhyw le arall yn y byd sydd ar gael ichi ei feddiannu
  • heb unrhyw hawl gyfreithiol i aros yn eich cartref
  • bod â rhywle i fyw ond na allant fynd i mewn i'r eiddo
  • bod â rhywle i fyw ond nid yw’n rhesymol ichi aros yno, er enghraifft, mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at yr unigolyn, neu aelod o’u cartref, yn destun camdriniaeth.
  • os oes gennych gwch, carafán neu gartref symudol ond nid oes gennych unrhyw le i'w roi

Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth os yw'n debygol y byddwch yn ddigartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf. Gall hyn fod oherwydd:

  • anhawster talu'ch morgais neu rent
  • toriad yn eich perthynas â'ch rhieni neu'ch partner sy'n golygu na allwch chi fyw gyda nhw mwyach
  • aflonyddu neu ddychryn
  • derbyn rhybudd i adael gan eich landlord
  • yn cael eich aflonyddu gan eich landlord
  • mae eich eiddo mewn cyflwr gwael
  • mae eich rhent mewn ôl-ddyledion
  • anghydfod â'ch landlord ynghylch bond neu flaendal

Sut i gael help

I gael help a chyngor, ac i drafod eich opsiynau, gallwch:

Helpwch eich hun gyda'n canllaw atal digartrefedd.

Tu Allan i Oriau Swyddfa

Os byddwch yn dod yn ddigartref y tu allan i oriau gwaith, ac nad oes gennych unrhyw le diogel i gysgu gallwch ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar 0300 123 30 68.