Talu rhent tai cymdeithasol

Fe gewch chi dalu’r rhent mewn sawl ffordd, felly dewiswch y ffordd sydd orau i chi.

Talu ar-lein

Talu eich rhent ar-lein

Fe fedrwch chi ddefnyddio eich cerdyn debyd neu eich cerdyn credyd i dalu eich rhent ar-lein.

Debyd Uniongyrchol

Os oes gennych chi gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, dyma’r ffordd hawsaf o dalu. Bydd eich rhent yn cael ei dalu o’ch cyfrif chi yn awtomatig bob mis.

Os hoffech chi drefnu debyd uniongyrchol, cysylltwch â ni i gael ffurflen mandad debyd uniongyrchol (gwefan allanol) neu ffoniwch ni ar 01824 706000.

Archeb Sefydlog

Os hoffech chi drefnu archeb sefydlog, cysylltwch â ni ar 01824 706000 neu cysylltwch â ni ar-lein (gwefan allanol) a gallwn ni drefnu bod ffurflen sy’n cynnwys y manylion perthnasol i gyd yn cael ei hanfon atoch chi. Gallwch chi fynd â hon i’r banc a byddan nhw’n gallu trefnu’r cyfan i chi. Fel arall, os ydych chi’n defnyddio bancio ar-lein, gallwn ni roi manylion banc i chi er mwyn i chi allu trefnu hyn eich hun.

Cerdyn rhent

Os oes gennych chi gerdyn llithro, gallwch chi ddefnyddio hwn i dalu eich rhent mewn swyddfa bost neu Siop Un Alwad. Mae’n rhaid i chi dalu ag arian parod ac mae isafswm taliad o £5. Os fyddwch chi’n colli’ch cerdyn llithro, cysylltwch â ni ar 01824 706000 neu cysylltwch â ni ar-lein (gwefan allanol) i drafod dewisiadau eraill sydd ar gael i chi oherwydd dydyn ni ddim yn cyflwyno rhai newydd bellach.

Talu dros y ffôn

Fe gewch chi ddefnyddio eich cerdyn debyd neu eich cerdyn credyd i dalu dros y ffôn. Pan fyddwch chi’n ein ffonio ni bydd angen i chi fod â’ch cyfeirnod rhent neu eich cerdyn plastig ar gyfer talu’r rhent, ac fe wnawn ni ofyn am eich enw a’ch cyfeiriad chi hefyd.

  • lein dalu awtomataidd 24 awr ar 0300 4562 499
  • 01824 706000 (o ddydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm. Dydd Gwener: 9am i 4:30pm)

Talu trwy’r post

Fe gewch chi dalu eich rhent trwy anfon siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych i:

Siop Un Alwad Y Rhyl
Stryd yr Eglwys
Y Rhyl
LL18 3AA

Gofynnir yn garedig i chi nodi eich cyfeirnod rhent, a’ch enw a’ch cyfeiriad gyda’r taliad, os gwelwch yn dda. Dim ond os ydych chi wedi gofyn am dderbynneb y byddwn ni’n anfon un atoch chi.

Problemau talu’r rhent?

Os ydych chi’n cael anhawster talu eich rhent, efallai y bydd gennych chi’r hawl i fudd-dal tai. Os nad ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd, ond yn credu y gallech chi fod yn gymwys, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth a chyngor yn ein hadran budd-daliadau, grantiau a chyngor ariannol.

I drafod sut y gallwn ni eich helpu chi, cysylltwch â ni ar-lein (gwefan allanol) neu ffoniwch ni ar 01824 706000.

Gwybodaeth bwysig am gynnydd mewn rhent a budd-daliadau

O ganlyniad i’r cynnydd blynyddol mewn rhent, bydd angen i chi gymryd camau os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol. 

Elfen costau tai Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am y cynnydd yn eich rhent cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, mae perygl y byddwch chi’n colli’r cyfle i hawlio’r swm y mae gennych hawl iddo tuag at eich rhent.

I gofnodi’r newid hyn, mewngofnodwch i’ch cyfrif yn:

GOV.UK: Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol (gwefan allanol)

Ffoniwch ni ar 01824 706000 os bydd angen cymorth arnoch chi i ddeall eich rhent a ffioedd gwasanaeth.

Budd-dal Tai

Os ydych chi’n cael Budd-Dal Tai, nid oes angen i chi wneud dim. Bydd eich cyfrif yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig i ddangos y newidiadau. Bydd yr Adran Budd-dal Tai yn ysgrifennu atoch chi pan fyddan nhw wedi canfod faint o Fudd-dal Tai y byddwch chi’n ei gael.