Gwybodaeth i denantiaid

Ers 23 Tachwedd 2016, mae'n rhaid i bob landlord ag eiddo rhent yng Nghymru fod wedi cofrestru, ac mae’n rhaid i asiantau a landlordiaid hunan-reoli gael trwydded i osod a rheoli gwaith mewn eiddo ar rent yng Nghymru.

Os ydych yn denant ac eisiau gweld os ydy eich landlord ac/ neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld y gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein (gwefan allanol).

Dylai eich cytundeb tenantiaeth nodi eich cyfrifoldebau chi fel tenant, a chyfrifoldebau eich landlord hefyd. Bydd rhai amodau’n amrywio o un eiddo i’r llall, ond dyma ganllaw cyffredinol i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau chi fel tenant.

Lleithder a llwydni

Mae lleithder a thyfiant llwydni yn cael ei achosi gan ormod o wlybaniaeth, a all fod yn waeth mewn tywydd oer oherwydd diffyg gwres a’r modd i awyru. Er mwyn lleihau lleithder a thyfiant llwydni yn eich cartref, gallwch wneud y canlynol:

  • cadw’r gwres ymlaen yn isel ac osgoi gwresogi un ystafell yn unig
  • sicrhau bod ffaniau echdynnu yn cael eu defnyddio a bod ffenestri ar agor wrth ymolchi/cael cawod a choginio.
  • gwella’r modd o awyru drwy agor ffenestri am gyfnod byr bob bore i gael gwared ar y gwlybaniaeth sydd wedi cronni dros nos
  • cael gwared ar anwedd a gwlybaniaeth o ffenestri ac arwynebau cyn gynted ag y mae'n ymddangos
  • ceisio osgoi sychu dillad ar reiddiaduron neu wresogyddion
  • cadw bwlch bach rhwng dodrefn mawr a’r wal er mwyn caniatáu i aer gylchredeg

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am leithder a llwydni o lyfrgell adnoddau Rhentu Doeth Cymru (gwefan allanol)

Eich hawliau chi

  • bod yn ymwybodol o amodau a thelerau llawn y cytundeb tenantiaeth 
  • gwybod enw a chyfeiriad y landlord 
  • byw mewn eiddo sydd mewn cyflwr boddhaol i’w rentu 
  • derbyn gwaith trwsio a chynnal a chadw eitemau wedi eu difrodi yn rhesymol o brydlon 
  • byw mewn llety diogel, â’r holl offer a systemau trydan a nwy yn bodloni’r safonau diogelwch sy’n ofynnol 
  • cael tystysgrif archwiliad nwy gan archwilydd wedi ei gofrestru â Corgi yn flynyddol, ac ar ddechrau pob tenantiaeth 
  • cael mwynhau’r eiddo yn dawel, heb i’r landlord fod yn gofyn am fynediad heb rybudd, a heb ymyrryd â’r cyfleustodau neu gyflenwadau eraill i’r eiddo 
  • cael llyfr rhent, os ydi’r rhent yn daladwy yn wythnosol 
  • cael cyfnod rhybudd rhesymol os ydi’r landlord yn dymuno terfynu’r cytundeb tenantiaeth (mae hyn yn orfodol) 
  • cael eich blaen-dal sicrwydd yn ôl ymhen 30 diwrnod, yn amodol ar y gwiriadau anghenrheidiol a bod y taliadau rhent wedi eu talu yn llawn.

Eich cyfrifoldebau chi

  • talu’r rhent cytunedig yn llawn ac ar amser
  • gwneud yn siwr nad oes unrhyw ddifrod yn cael ei achosi i’r eiddo na’i gynnwys, un ai gennych chi, aelodau’r teulu neu ymwelwyr 
  • cysylltu â’ch landlord a gofyn am ganiatâd ysgrifenedig i wneud unrhyw addasiadau i’r eiddo 
  • hysbysu’r landlord am unrhyw ddifrod neu unrhyw waith trwsio sy’n ofynnol 
  • peidio ag achosi tarfu, niwsans nac annifyrrwch i’r cymdogion 
  • caniatáu i’r landlord ddod i mewn i’r eiddo i wneud gwaith trwsio neu gynnal archwiliad, cyn belled â’i fod wedi rhoi cyfnod rhybudd rhesymol i chi 
  • cael caniatâd ysgrifenedig gan y landlord os ydych chi’n dymuno is-osod neu gael lojar yn yr eiddo 
  • rhoir cyfnod rhybudd cytunedig i’ch landlord os ydych chi’n dymuno diweddu eich cytundeb tenantiaeth a symud o’r eiddo 
  • peidio â gadael yr eiddo yn wag am fwy na 14 diwrnod heb hysbysu’r landlord neu’r asiant gosod

Eiddo sy’n cael ei rannu

Os ydych chi’n byw mewn math penodol o eiddo sy’n cael ei rannu â phobl eraill, gall fod yn ofynnol i’ch landlord chi fod â thrwydded ar gyfer hyn. Mae’r math yma o eiddo yn cael ei adnabod fel tŷ aml-feddiannaeth.

Rydych chi’n debygol o fod yn byw mewn tŷ aml-feddiannaeth os ydych chi’n rhannu cyfleusterau fel ystafell ymolchi neu gegin â phobl eraill nad ydynt yn aelodau o’ch teulu chi. Bydd angen i’ch landlord fod â thrwydded os ydych chi’n byw mewn tŷ aml-feddiannaeth tri llawr neu ragor, os ydych chi’n rhannu’r eiddo â dau neu fwy o bobl eraill, fel dau neu fwy o aelwydydd, ac nad ydych chi i gyd yn aelodau o’r un teulu.

Os ydych chi’n byw mewn eiddo wedi ei drwyddedu, mae hyn yn golygu bod rhaid i’r eiddo gyrraedd safonau penodol ac mae’n rhaid i’r landlord gadw at amodau penodol. Cyn i ni roi trwydded byddwn yn ystyried a ydi’r landlord yn unigolyn addas a phriodol i reoli’r eiddo, a byddwn yn nodi faint o bobl sy’n cael byw yn yr eiddo hefyd. Rydyn ni’n medru erlyn landlordiaid sy’n gosod eiddo heb y drwydded angenrheidiol neu sy’n torri amodau eu trwydded.

Cymorth i dalu eich rhent

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch chi’n gymwys i hawlio budd-dal tai i helpu efo costau’r rhent.