Trwydded bersonol

Mae trwydded bersonol yn galluogi person penodol i gyflenwi alcohol neu i ganiatáu cyflenwi alcohol mewn eiddo sydd â thrwydded eiddo ddilys.

Mae angen trwydded bersonol i oruchwylio gwerthiant alcohol mewn unrhyw eiddo â thrwydded gan gynnwys tafarndai, siopau trwyddedig, tai bwyta a gwestai. Mae ‘eiddo trwyddedig’ yn cynnwys pob eiddo sy’n cael gwerthu alcohol dan drwydded eiddo. Does dim angen trwydded bersonol arnoch chi i werthu alcohol dan rybudd digwyddiad dros dro.

Nid yw trwyddedau personol ynghlwm wrth eiddo penodol. Mae hyn yn golygu y caiff dalwyr trwyddedau personol awdurdodi gwerthu alcohol mewn unrhyw eiddo trwyddedig yng Nghymru a Lloegr.

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?

Mae’n rhaid i chi wneud cais i awdurdod trwyddedu yr ardal lle rydych chi’n byw ac nid i awdurdod trwyddedu yr ardal lle rydych chi’n gweithio.

Cyn ymgeisio am drwydded bersonol mae’n rhaid i chi fynychu cwrs i ennill cymhwyster trwyddedu cydnabyddedig i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gyfraith drwyddedu a’r cyfrifoldeb cymdeithasol ehangach sydd ynghlwm wrth werthu alcohol.

Darparwyr cymwysterau trwydded bersonol achrededig (PDF, 66KB)

Ewch i gov.uk i lawrlwytho’r ffurflen gais (gwefan allanol). Dychwelwch eich ffurflen gais i ni, ynghyd â: 

Ffurflen ffotograffau ar gyfer cais trwydded bersonol (PDF, 40KB)

Anfonwch eich ffurflen gais, y dogfennau ategol a’r ffi ymgeisio i’r:

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ

Nid oes modd i chi ymgeisio ar-lein oherwydd bod arnom ni angen dogfennau gwreiddiol.

Os oes gennych chi drwydded bersonol a bod eich manylion wedi newid (e.e. newid eich enw, cyfeiriad, euogfarnau), mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig. Codir £10.50 arnoch chi i newid eich manylion personol.

Am ba hyd y mae'r drwydded yn ddilys?

Nid yw trwyddedau personol, unwaith y cânt eu caniatáu, yn dod i ben, oni chânt eu dirymu.

Faint mae’n costio?

Mae gwneud cais am drwydded bersonol yn costio £37.

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.

Talu drwy BACS

Mae ein manylion BACS yn:

  • Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
  • Cod Didoli: 54 41 06
  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

Cod cost

Rhowch y cod cost 3476-40094 wrth wneud taliad Trwydded Bersonol.

Gall methu â darparu’r cod cost priodol neu enw’r eiddo achosi oedi wrth brosesu eich cais. 

Mwy wybodaeth

Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu.

Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 796KB)