Tŷ aml-feddiannaeth yw eiddo a gaiff ei rentu i o leiaf tri o bobl nad ydynt o’r un ‘aelwyd’ (e.e. teulu).
Y diweddaraf am coronafeirws
Canllaw i denantiaid Tai Amlfeddiannaeth
Os oes gennych symptomau’r Coronafeirws, yna dylai holl aelodau’r cartref aros gartref a pheidio gadael am 14 diwrnod. Darganfod mwy am y symptomau a gwirio Gwiriwr Symptomau’r Coronafeirws GIG Cymru (gwefan allanol)
Atgyweiriadau
Mae’ch landlord yn dal i fod yn gyfrifol am gadw’ch cartref yn ddiogel ac mewn cyflwr da, hyd yn oed yn ystod y pandemig hwn. Os oes problem gyda’ch cartref, dylech ddweud wrth eich landlord neu’ch asiantaeth osod.
Gweld canllawiau Llywodraeth Cymru o safbwynt atgyweiriadau i’ch cartref rhent (gwefan allanol)
Gofodau a rennir
Os yw rhywun yn sâl mewn tŷ amlfeddiannaeth lle mae gofodau’n cael eu rhannu, dylent:
- ymweld cyn lleied â phosib â’r mannau a rennir fel ceginau, ystafelloedd ymolchi ac ardaloedd eistedd
- awyru digon ar y gofodau a rennir
- cadw 2 fetr oddi wrth bobl eraill
- defnyddio ystafell ymolchi ar wahân os yn bosib (dylai’r ystafell ymolchi gael ei glanhau a’i diheintio gan ddefnyddio cynnyrch glanhau arferol cyn i unrhyw un arall ei defnyddio)
- defnyddio tywelion corff a thywelion dwylo gwahanol i bobl eraill
- osgoi defnyddio ceginau a rennir pan fydd pobl eraill yn bresennol.
- mynd a phrydau bwyd yn ôl i’w hystafell i fwyta a defnyddio peiriant golchi llestri (os oes un ar gael) i olchi a sychu llestri
Canllawiau ar gyfer landlordiaid Tai Amlfeddiannaeth
Ni fydd landlordiaid yn gallu cychwyn achosion troi allan am dri mis. Nid yw troi allan, ar wahân i drwy Orchymyn Llys, yn gyfreithlon. Mae’n bosib y byddwn yn ystyried erlyn landlordiaid sy’n ceisio troi tenantiaid allan yn anghyfreithlon, neu’n aflonyddu arnynt.
Os oes rhaid i’ch tenantiaid hunan-ynysu, yn amlwg bydd hyn yn sefyllfa anodd ac felly dylech eu hannog i gynllunio er mwyn gwneud y sefyllfa’n haws, dylai hyn gynnwys:
- Ystyried beth mae angen iddynt eu harchebu er mwyn gallu aros gartref am yr 14 diwrnod cyfan
- siarad gyda’u cyflogwr, ffrindiau a theulu er mwyn gofyn am eu help i gael gafael ar y pethau y byddant eu hangen i sicrhau bod eu harhosiad gartref yn llwyddiannus
- cynllunio sut i gael bwyd a chyflenwadau eraill fel meddyginiaeth angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn
- creu rhestr cysylltiadau gyda rhifau ffôn cymdogion, ysgolion, cyflogwr, fferyllydd, GIG 111
- cychwyn cyfrifon siopa ar-lein os yn bosib
- gofyn i ffrindiau neu deulu ddod ag unrhyw beth sydd ei angen neu archebu cyflenwadau ar-lein, ond sicrhewch bod y rhain yn cael ei gadael y tu allan i’r cartref iddynt eu casglu
- sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad efo ffrindiau a theulu dros y ffôn neu ar y cyfryngau cymdeithasol
- meddwl am bethau y gallant eu gwneud yn ystod eu cyfnod gartref
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws
Mae gwahanol fathau o eiddo dai aml-feddiannaeth: y rhai sy'n rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin; fflatiau hunangynhaliol, a'r rhai sy'n cynnwys cymysgedd o unedau a rennir ac unedau hunangynhaliol.
Rhaid i dai aml-feddiannaeth sy'n dod o dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol fod â thrwydded:
- os oes ganddynt dri llawr neu fwy, AC
- os oes pum tenant neu fwy yn byw ynddynt, AC
- os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd
- gyda chyfleusterau a rennir neu hebddynt (ystafell ymolchi a chegin)
Dan ein Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, mae meini prawf rhywfaint yn wahanol ar gyfer eiddo yn y Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhyl. Rhaid i eiddo tai aml-feddiannaeth yn y Dinbych, Llangollen, Prestatyn a Rhyl l fod â thrwydded:
- os oes tri thenant neu fwy yn byw yno, AC
- os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd, gyda chyfleusterau a rennir neu hebddynt (ystafell ymolchi a chegin)
- os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd cwbl hunangynhaliol, ond nad ydynt yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991, A lle mae llai na dau draean o’r fflatiau hunangynhaliol yn cael eu meddiannu gan y perchennog.
Sut i wneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth
Cyfrifoldeb y landlord neu reolwr yr eiddo yw gwneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth.
Cyn i chi gwblhau’r cais, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd hyn.
Trwyddedau Tai Aml-feddiannaeth nodiadau cyfarwyddyd (PDF, 211KB)
I wneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth, llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Ffurflen gais trwydded Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 398KB)
Sylwch fod y ffurflen gais a'r nodiadau cyfarwyddyd ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Bydd fersiynau Cymraeg ar gael yn fuan.
Mae trwydded tŷ aml-feddiannaeth yn ddilys am hyd at 5 mlynedd. Bydd angen i chi wneud cais am drwydded newydd ar ddiwedd y cyfnod hwn.
Faint mae'n ei gostio?
Mae cost trwydded tŷ aml-feddiannaeth yn dibynnu ar nifer yr ystafelloedd y mae modd byw ynddynt yn yr eiddo.
Rhestr ffioedd Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 79KB)
Safonau Tai Aml-feddiannaeth
Rydym ni’n gyfrifol am sicrhau cadw at safonau Tai Aml-feddiannaeth, felly os ydych chi’n byw mewn llety o’r fath ac o’r farn bod peryglon afresymol nad ydi eich landlord preifat yn ymdrin â nhw, rhowch wybod i ni.
Cofrestr tai aml-feddiannaeth
Rydyn ni’n cadw cofrestr o’r holl eiddo yn Sir Ddinbych wedi eu rhestru fel tai
aml-feddiannaeth.
Cofrestr trwyddedu Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 81KB)
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eiddo a drwyddedwyd, neu eiddo rydych chi’n teimlo y dylai gael ei gofrestru ond sydd heb ei gofrestru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Dogfennau cysylltiedig
Safonau Gofynnol Trwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (PDF, 624KB)