Trwyddedau parcio i breswylwyr

Mae cynlluniau parcio yn atal pobl nad ydynt yn breswylwyr rhag parcio mewn ardaloedd preswyl lle mae parcio’n broblem.

Sut ydw i'n defnyddio'r drwydded barcio hon?

Mae nifer o ardaloedd parcio i breswylwyr yn unig yn Sir Ddinbych. Mae’r rhain wedi eu dynodi’n glir ag arwyddion a marciau ffyrdd. Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn, a’ch bod chi’n parcio ar y ffordd yn yr ardal yn rheolaidd, mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded parcio, hyd yn oed os oes gennych chi fathodyn glas.

Ardaloedd parcio i breswylwyr yn unig

Sylwch, os gwelwch yn dda, dim ond os ydych chi’n byw yn un o’r strydoedd hyn y cewch chi wneud cais am drwydded barcio i breswylydd. Ni chewch wneud cais am drwydded barcio os oes gennych chi fusnes ar un o’r strydoedd hyn ond nad ydych chi’n byw yn yr eiddo.

Dinbych

  • Heigad
  • Lon Pendref
  • Stryd y Dyffryn

Llanelwy

  • Stryd Caer
  • Stryd Mount

Llangollen

  • Stryd y Bont
  • Stryd y Capel
  • Stryd yr Eglwys
  • Stryd y Neuadd

Rhuthun

  • Stryd Llanrhydd
  • Stryd y Farchnad
  • Stryd Mount
  • Wernfechan

Y Rhyl

  • Ffordd Brighton
  • Ffordd Cilgant
  • Oxford Grove
  • Parc Morlan
  • Rhodfa'r Brenin
  • Stryd Bedford
  • Stryd Cinmel
  • Stryd Clwyd
  • Stryd Elwy
  • Stryd Gorllewin Cinmel
  • Stryd Paradwys
  • Stryd Thorpe
  • Stryd Vezey
  • Stryd Windsor
  • Stryd y Baddon
  • Stryd y Tywysogion
  • Y Promenâd: Marine Drive
  • Y Promenâd: Pared y Dwyrain
  • Y Promenâd: Pared y Gorllewin

Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded barcio?

Gallwch wneud cais am drwydded parcio i breswylydd yn ein Siopau Un Alwad. Gall cwsmeriaid sy’n adnewyddu trwydded i breswylydd hefyd ei phrynu drwy ffonio Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706000.

Pan fyddwch chi’n gwneud eich cais cyntaf am drwydded ar gyfradd is, bydd arnom ni angen tystiolaeth o’ch preswyliaeth (er enghraifft, bil gwasanaeth gyda’ch cyfeiriad arno) a chopi o’ch dogfen cofrestru cerbyd.

Faint mae'n gostio?

Mae trwydded barcio i breswylydd yn costio £25.54 y drwydded y flwyddyn.

Mae’n costio £5 i adnewyddu trwydded wedi ei dwyn neu ei cholli.

Os oes gennych chi fathodyn glas ni fydd angen i chi dalu am eich trwydded barcio i breswylwyr, ond bydd angen copi o'ch bathodyn glas arnom pan fyddwch yn gwneud cais.

Petaech chi’n newid eich cerbyd mae’n rhaid i chi anfon eich trwydded yn ôl atom ni ac fe wnawn ni roi un newydd i chi. Ni chodir tâl am hyn.