Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi'i ariannu
Efallai fod eich plentyn yn gymwys i dderbyn 10 awr o addysg wedi’i ariannu bob wythnos, yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Mae’n rhaid iddynt fynychu cylch chwarae neu Feithrinfa Ddydd sydd wedi cofrestru gyda’n Rhaglen Addysg Gynnar, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn.
Pwy sy'n gymwys?
Mae'r canlynol yn gymwys am 10 awr o addysg wedi’i ariannu:
- Plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 1 Medi 2026 a 31 Rhagfyr 2026 sy’n gymwys i gael cyllid o fis Ionawr 2027 tan fis Gorffennaf 2027.
- Mae plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 1 Ionawr 2027 a 31 Mawrth 2027 yn gymwys i gael cyllid o fis Ebrill 2027 tan fis Gorffennaf 2027.
Nid yw plant sy’n cael eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Ebrill 2027 a 31 Awst 2027 yn gymwys am gyllid drwy’r cynllun hwn gan y byddant yn gymwys am le mewn Dosbarth Meithrin Ysgol o fis Medi 2027.
Sut mae'n gweithio?
Os yn gymwys, byddai’r cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r cylch chwarae neu feithrinfa ddydd am y tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd honno. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu’n arbennig yn ystod y tymor ac ni fydd ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol. Ni ellir darparu cyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.
Rhai o fuddion Addysg Gynnar
- Magu hyder
- Gwneud ffrindiau newydd
- Cael hwyl mewn amgylcheddau gwahanol
- Datblygu annibyniaeth
- Dysgu siarad Cymraeg
- Datblygu creadigrwydd a dychymyg
- Archwilio a datrys problemau
Sut i wneud cais
I wneud cais am Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi’i ariannu, byddwch angen:
1. Lle wedi'i gytuno ar gyfer eich plentyn mewn lleoliad cofrestredig sy’n rhan o’r cynllun (gweler y rhestr wirio isod).
Gweld y rhestr o gylchoedd chwarae a meithrinfeydd cofrestredig sy'n rhan o'r cynllun
Cylchoedd chwarae a meithrinfeydd dydd cofrestredig sy’n rhan o’r cynllun Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi’i ariannu
Cyfrwng Cymraeg
- Cylch Meithrin Clocaenog
- Cylch Meithrin Dewi Sant
- Cylch Meithrin Dinbych Uchaf
- Cylch Meithrin Hadau’r Nant
- Cylch Meithrin Henllan
- Cylch Meithrin Llanelwy
- Cylch Meithrin Llangollen
- Cylch Meithrin Llanrhaeadr
- Cylch Meithrin Rhuthun
- Cylch Meithrin Tremeirchion
- Cylch Meithrin y Graig
- Cylch Meithrin Ysgol y Llys
- Cylch y Dderwen, Canolfan y Dderwen
- Ysgol Betws GG
- Ysgol Bro Dyfrdwy
- Ysgol Pant Pastynog
- Ysgol Pentrecelyn
Cyfrwng Saesneg
- Meithrinfa Beach House, Marine Drive
- Clwb Hwyl Bodnant Bach
- Borthyn Bunnies
- Grŵp Chwarae Bumblebees
- Busy Bods
- Clawdd Offa Bach
- Clwb Cefn Playgroup
- CIC Clwb Penmorfa
- Meithrinfa Corwen (Dwyieithog)
- Cylch Chwarae Gellifor
- CIC Cylch Chwarae Faenol
- Ffrindiau Bach
- Fun Days
- Meithrinfa Happy Days
- Grŵp Chwarae Hiraddug
- Little Acorns, Rhuthun
- Little Acorns, Llandyrnog
- Little Acorns, Y Rhyl
- Little Lambs yn Emmanuel
- Lleoliad Cyn-ysgol Little Lambs
- Little Rascals
- Miri Melyd
- Munchkins yn Llanbedr DC
- Grŵp Chwarae Puddleducks
- Grŵp Chwarae Rhuddlan
- Grŵp Chwarae Cymunedol Llanelwy
- Summerhouse
- Canolfan Gofal Plant The Mill
- Tiny Tots
- Ysgol Bro Famau
- Ysgol Caer Drewyn
- Ysgol Carrog
- Ysgol Clawdd Offa
- Ysgol Dyffryn Iâl
2. I wneud cais ar-lein mae angen darparu tystiolaeth o ddyddiad geni a chyfeiriad eich plentyn.
Gwneud cais ar-lein am Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi'i ariannu
A ellir defnyddio’r cyllid ar gyfer diwrnodau llawn yn fy lleoliad a ddewiswyd?
Nac oes, mae’r cyllid yn darparu 5 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, 2 awr yr un, yn debyg i ddosbarth meithrin ysgol.
Neu, mewn rhai amgylchiadau, 4 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, sy'n para 2 awr a hanner.
Ydi hi'n bosib rhannu'r cyllid rhwng lleoliadau?
Nac ydi, dim ond cyllid ar gyfer un lleoliad sydd ar gael i’ch plentyn.
A oes rhaid i fy mhlentyn fynychu bob dydd?
Nac oes, ond mae’n rhaid i bob lleoliad gynnig sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mynychu’n ddyddiol yn gymorth i bontio i’r ysgol.
Os ydw i'n gymwys, a oes modd gwarantu y caf le mewn dosbarth meithrin ysgol?
Nac oes, bydd angen gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol, Rhagor o wybodaeth o ran pryd a sut i wneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol.
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych
Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)
Rhagor o wybodaeth
Mae 10 awr o addysg wedi’i ariannu drwy'r Tîm Addysg Gynnar yn rhan o’r Cynnig Gofal Plant 30 awr. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer oriau gofal plant ychwanegol, gwiriwch a gwnewch gais yn Gwefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ar gyfer addysg eich plentyn gan ein hadran grantiau ac ariannu.