Newid ysgol

Os hoffech chi symud eich plentyn o un ysgol i un arall, gallwch wneud cais i newid ysgol. Os nad yw’r newid yn gysylltiedig â symud tŷ, siaradwch gyda phennaeth eich plentyn yn gyntaf.

Ni allwn sicrhau lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol oherwydd y cynigir lleoedd pan fo rhai ar gael yn y grŵp blwyddyn. Ni ddylech dynnu’ch plentyn o’i ysgol bresennol cyn derbyn lle mewn ysgol arall.  

Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol newydd ar ddechrau'r tymor neu'r hanner tymor nesaf, pa un bynnag sydd gyntaf.

Sut i wneud cais i newid ysgol

Gallwch wneud cais i symud ysgol ar-lein.

Gwnewch gais ar-lein i symud eich plentyn i ysgol newydd

Os ydych chi wedi gwneud cais i newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol, byddwn yn prosesu eich cais o fewn 15 diwrnod ysgol. Os nad ydych yn llwyddo i gael lle, fe wnawn ni ysgrifennu atoch i esbonio pam. Os gallwn ni gynnig y lle, byddwch yn derbyn galwad gan yr ysgol newydd.

Canllawiau gwybodaeth ysgolion