Cael gwared ag asbestos

Asbestos yw’r enw a roddir ar grŵp o fwynau sy’n bodoli’n naturiol ac a ddefnyddir mewn cynnyrch megis deunyddiau adeiladu a breciau ceir, er mwyn gwrthsefyll gwres a chyrydiad. 

Pam ei fod yn beryglus?

Gall asbestos achosi afiechyd difrifol: Mesothelioma, cancr ar yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag asbestos, Asbestosis a thewhau plewrol. Nid yw’r afiechydon hyn yn eich effeithio’n syth ond gallant ddatblygu dros amser. Ar ôl cael diagnosis, mae hi’n aml yn rhy hwyr i wneud dim.

A yw'r cyngor yn cael gwared ag asbestos?

Na. Os oes angen cael gwared ag asbestos, argymhellwn eich bod yn cysylltu â chwmni arbenigol a/neu gontractwr trwyddedig i gynnal arolwg ac yna i symud a chael gwared â’r asbestos.

A allaf fynd ag asbestos i'r ganolfan ailgylchu?

Gallwn dderbyn gwastraff asbestos o’r cartref (e.e. blancedi tân, hen fyrddau smwddio ac ati) ym Marsh Road, ond ni dderbynnir sypiau mawr. Gallwn dderbyn hyd at dri bag neu becyn o haenau o asbestos wedi eu rhwymo gan breswylwyr Sir Ddinbych y mis; mae’n rhaid lapio’r eitemau ddwywaith neu eu bagio ddwywaith gyda pholythen cryf.

Cynigiwn eich bod yn siarad ag aelod o staff ar ôl cyrraedd a gofyn ble mae’r sgip asbestos wedi ei lleoli. Gofynnir i breswylwyr ddarparu eu henw a’u cyfeiriad wrth gael gwared â gwastraff asbestos.

Darganfod mwy am reoliadau iechyd a diogelwch yn y gweithle sy’n ymwneud ag asbestos