Ffioedd Gwastraff ac Ailgylchu  

Codir ffioedd am rai gwasanaethau a chynwysyddion gwastraff ac ailgylchu.

Ffioedd

Rhestr ffioedd:


Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu

Ffioedd cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu
CynhwysyddFfi
Set biniau tai newydd – ddim ond ar gael i berchnogion neu feddianwyr newydd £45
Bin glas ar olwynion yn lle'r un presennol (pob maint) £25
Bin du ar olwynion yn lle'r un presennol (pob maint) £25
Sach y gellir ei hail ddefnyddio ar gyfer ailgylchu sych iawn £0 yn ddibynnol ar argaeledd
Cadi cegin newydd a chadi gwastraff bwyd ymyl y palmant £0
Bagiau cadi gwastraff bwyd £0
Un sach binc untro ar gyfer gwastraff gweddilliol - Dim ond ar gyfer cartrefi sy'n derbyn casgliadau sachau pinc £0.08
Rholyn o 52 o sachau pinc untro ar gyfer gwastraff gweddilliol - Dim ond ar gyfer cartrefi sy'n derbyn casgliadau sachau pinc £4.00

Ewch i weld y ffioedd ar gyfer cynwysyddion gwastraff gardd.

Yn ôl i’r rhestr ffioedd


Casglu eitemau swmpus

Costau casglu eitemau swmpus gan gynnwys tâl gweinyddol
Nifer yr eitemau swmpusCyfanswm y gost gan gynnwys tâl gweinyddol
1 £20.00
2 £26.00
3 £31.00
4 £36.00
5 £41.00
6 £46.00

Yn ôl i’r rhestr ffioedd


Tanysgrifiadau casglu gwastraff gardd

Costau tanysgrifio gwastraff gardd
CynhwysyddionCost wrth danysgrifio ar-leinCost wrth danysgrifio unrhyw ffordd arall
Un bin olwyn gwyrdd 140 litr neu dri sach ddympi £35.00 £40.00
Dau fin olwyn gwyrdd 140 litr neu chwe sach ddympi £50.00 £55.00
Cadw eich bin olwyn gwyrdd 240L / 360 litr
£50.00 £55.00

Mae'r opsiwn yma ar gael i gwsmeriaid a chanddynt eisoes fin olwyn 240/360 litr - ni fyddwn yn dosbarthu mwy o finiau olwyn 240/360 litr..

Yn ôl i’r rhestr ffioedd


Gynwysyddion gwastraff gardd yn lle’r rhai presennol

Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
CynhwysyddFfi
Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol £25
Tair sach £15
Sach yn lle’r un bresennol £5 yr un

Yn ôl i’r rhestr ffioedd


Eich hen fin ar olwynion ddim yn cael ei ddychwelyd

Pan rydych yn archebu bin ar olwynion arall yn lle'r un presennol am fod y bin wedi ei ddifrodi cymaint fel nad oes modd ei atgyweirio, neu os ydych yn archebu bin mwy/llai, yna mae’n rhaid i’ch hen fin ar olwynion gael ei ddychwelyd pan fyddwn yn dod â’r bin newydd. Os nad yw’r hen fin ar gael pan fyddwn yn dod â'r bin newydd yna fe fydd yna ffi bellach o £10 i'w dalu cyn y gellir darparu'r bin newydd. Ni fydd unrhyw gost os bydd y bin ar goll gan fod ein criw casglu wedi ei ddifrodi a heb allu ei roi yn ôl ger ymyl y palmant.

Yn ôl i’r rhestr ffioedd


Atgyweirio bin

Codir ffi o £10 am y gwasanaeth atgyweirio biniau ar olwynion. Ewch i ddarganfod mwy am finiau gwastraff ac ailgylchu ar olwynion sydd wedi’u difrodi.

Yn ôl i’r rhestr ffioedd


Gwasanaethau biniau olwynion gwastraff masnach 

Taliadau am wasanaethau biniau olwynion gwastraff masnach
Maint y bin olwynAilgylchuGweddilliolBwyd
1100L £12.75 £25.75 N/A
660L £10.25 £15.75 N/A
360L £6.50 £9.25 N/A
240L £4.50 £6.95 N/A
120L N/A N/A £3.85
23L N/A N/A £1.95
Yn ôl i’r rhestr ffioedd

Gasgliadau sachau gwastraff masnach

Taliadau am gasgliadau sachau gwastraff masnach
Sachau AilgylchuGweddilliol
10 sachau £15.50 £26.25
52 sachau ailgylchu (rolyn) £77.00 N/A
100 sachau brown N/A £242.75
Yn ôl i’r rhestr ffioedd

Labeli gwasanaeth casglu cardfwrdd

Ar gyfer cwsmeriaid gwastraff masnach heb fawr ddim capasiti storio ar gyfer biniau olwynion, rydym yn cynnig gwasanaeth casglu cardbord. Gydag un o'n labeli ynghlwm, gallwch osod hyd at 1 metr ciwbig o gardbord fflat i'w gasglu. Nodwch fod y gwasanaeth hwn yn destun polisi defnydd teg.

Gellir prynu dalennau o 14 o labeli gwasanaeth casglu cardfwrdd o’r Siopau Un Alwad am £36.00 y ddalen.

Yn ôl i’r rhestr ffioedd

Ffioedd gwastraff DIY (Parciau Ailgylchu a Gwastraff)

Bydd yr awdurdod yn codi tâl i dderbyn gwastraff domestig penodol nad ydynt yn cael eu hystyried yn wastraff y cartref.

Gellir codi tâl rhesymol am eitemau er mwyn ysgwyddo’r costau mewn perthynas â rheoli, trin a gwaredu’r gwastraff hyn. Fel canllaw cyffredinol, os yw’r gwastraff yn eitem a ddefnyddir fel arfer mewn tŷ preswyl ac os nad yw wedi gosod i’r tŷ neu os yw tu allan os nad yw wedi ei osod i’r tir, fe’i hystyrir yn wastraff y cartref yn gyffredinol.

Fel canllaw cyffredinol, os yw’r gwastraff yn eitem a ddefnyddir fel arfer mewn tŷ preswyl ac os nad yw wedi gosod i’r tŷ neu os yw tu allan os nad yw wedi ei osod i’r tir, fe’i hystyrir yn wastraff y cartref yn gyffredinol.

Mae’r ffioedd perthnasol yn y tabl isod:

Taliadau gwastraff DIY (Parciau Gwastraff ac Ailgylchu)
DeunyddiauFfiDisgrifiad
Seiliau caled a rwbel, gwastraff adeiladu DIY, pridd
  • £2.20 y bag
    (£22 y trelar)
  • Un bag am ddim fesul cwsmer (hyd at 20kg)

Yn cynnwys eitemau megis: blociau, brics, cerameg, concrit, teils, cerrig llorio, grafel, llechi, pridd, tywod, cerrig a tharmac.

Coed a phren
  • £4.40 y bag (5kg to 20kg)
  • £33.00 fesul llwyth trelar
  • Llai na 5kg yn rhad ac am ddim
Mae pren DIY neu adeiladu'n cynnwys: dodrefn wedi’u gosod yn bwrpasol, drysau a chabinetau cegin, ffensys, siediau, llawr a decin (nodwch bydd cost “cyfradd bag” ar gyfer eitemau pren mwy fel drysau, paneli ffens, paledau ac ati.).
Asbestos (asbestos wedi'i fondio yn unig) £13.75 fesul bag neu ddalen Rhaid i asbestos gael ei roi mewn dwy fag/ei lapio mewn plastig. Cynghorir preswylwyr i beidio â thorri i ddarnau llai neu dorri/llifio.
Byrddau plastr £4.40 y bag neu ddalen
(£33 y trelar)
Dylai bwrdd plastr fod yn sych a heb ei gymysgu â deunyddiau eraill.
Cynwysyddion nwy
  • £6.00 yr un hyd at 10kg
  • £11.00 yr un 10 - 20kg
  • £35.00 yr un ar gyfer cynwysyddion nwy arbenigol mwy na 20kg
Poteli nwy sy'n gwbl wag yn unig.
Teiars (Cerbydau modur a beiciau modur yn unig) £4.00 yr un Ni dderbynnir teiars cerbydau masnachol nac amaethyddol. Ni chodir tâl am deiars beics.
Ffenestri plastig £3.00 yr un Gyda neu heb y gwydr. Ffenestri un paen yn unig (codir tâl dwbl am ffenestri plastig â sawl paen).
Drws plastig neu fframiau drws £3.00 yr un Gyda neu heb y gwydr. Drws eu ffrâm drws sengl yn unig (codir tâl dwbl am ddrysau dwbl).
Offer ystafell ymolchi £3.00 yr eitem Yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) eitemau fel baddonau, lloriau cawodydd, toiledau, bidets, basnau/sinciau, sgriniau cawod/bath ac unedau ymolchi.
Deunydd inswleiddio £3.00 fesul bag Fesul bag neu gyfatebol.
Cynhyrchion fel inswleiddio gwlân mwynol a ffibr gwydrog.
Ffelt toeau £3.00 fesul bag Fesul bag neu gyfatebol.
Cwteri, peipiau dŵr neu ffasgia plastig
  • £3.00 am hyd at 5 darn
  • £6.00 am hyd at 10 darn
Cwteri, peipiau dŵr neu ffasgia plastig.

mae bag yn golygu'r un maint â bag bach plastig tywod neu gerrig mân o siopau DIY arferol (neu debyg) sy'n gallu cael eu codi'n ddiogel gan un person (5kg - 30kg).

fesul trelar: trelar echel sengl fychan safonol gydag uchafswm llwyth o 750kg.

ystyrir dalen yn gyfystyr ag un bag.

Yn ôl i’r rhestr ffioedd

Gwybodaeth ynglŷn â pham y codir ffioedd am gynwysyddion gwastraff ac ailgylchu

Pam fod Cyngor Sir Ddinbych yn codi ffi am finiau?

Pam fod Cyngor Sir Ddinbych yn codi ffi am finiau?

Cyflwynwyd y gost i dalu am y gwaith gweinyddol a dosbarthu’r biniau a’r bwriad yw annog preswylwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu biniau ar olwynion ac i leihau’r galw am gyfnewid biniau. Mae’r polisi newydd hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar ei gyllideb gyffredinol fel ein bod yn gallu parhau i gyflawni ein gwasanaethau statudol.

Mae’r cyngor yn gwario oddeutu £40,000 y flwyddyn ar yr holl finiau ar olwynion. Byddai’r arian hwn yn gallu cael ei wario ar wasanaethau eraill. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer cynyddol o geisiadau wedi bod am finiau. Bydd y polisi hwn yn annog preswylwyr i gymryd gwell gofal o’u biniau. Yn seiliedig ar alw presennol am finiau, byddai’n rhaid cynyddu’r gyllideb flynyddol i £75,000 os byddem yn parhau i ddarparu biniau am ddim.

Mae’r mwyafrif helaeth o geisiadau ar gyfer cyfnewid biniau. Dylai biniau bara am 20 mlynedd a mwy. Mae cyfraddau cyfnewid oherwydd athreuliad fel arfer yn llai na 5% ond yn Sir Ddinbych mae hynny yn llawer uwch ar hyn o bryd.

A oes gan y Cyngor yr hawl i godi tâl arnom am finiau?

A oes gan y Cyngor yr hawl i godi tâl arnom am finiau?

O dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Adran 46) 1990, mae gan y Cyngor yr hawl i godi ffi am ddarparu’r holl gynwysyddion gwastraff. Y Pennaeth Gwasanaeth sydd â’r ddirprwyaeth i gyflwyno ffi o’r natur hwn ac yn yr achos yma cafodd y penderfyniad ei wneud trwy broses gwneud penderfyniad dirprwyedig.

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y ffi?

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y ffi?

Mae’r ffi ar gyfer dosbarthu a chostau gweinyddol yn ymwneud â’r bin, yn cynnwys caffael a storio. Mae’r bin yn parhau i fod yn eiddo’r Cyngor a rhaid iddo aros yn y tŷ y cafodd ei ddosbarthu iddo os byddwch yn symud tŷ (yn berthnasol i’r holl finiau du a glas a biniau gwyrdd os ydych yn symud allan o ardal y Cyngor.)  Mae hawl gennych i fynd â’r biniau gwyrdd i’ch cyfeiriad newydd yn Sir Ddinbych ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Tanysgrifio Gwastraff Gardd eich bod wedi newid cyfeiriad neu ni fydd eich bin yn cael ei wagio yn eich cyfeiriad newydd).

Ydi’r ffi yn berthnasol i holl geisiadau am gyfnewid biniau p’un ai fod y bin wedi mynd ar goll, wedi cael ei ddwyn neu ei ddifrodi?

Ydi’r ffi yn berthnasol i holl geisiadau am gyfnewid biniau p’un ai fod y bin wedi mynd ar goll, wedi cael ei ddwyn neu ei ddifrodi?

Bydd ffi yn cael ei godi ar gyfer cyfnewid pob bin.  Os fydd bin wedi malu ac mai bai criw casglu’r Cyngor yw hynny, bydd y criw yn cofnodi hyn ac yn postio cerdyn cynghorol trwy’r blwch post a bydd bin newydd yn cael ei ddosbarthu am ddim. Gwnewch yn siŵr fod rhif neu enw eich tŷ ar eich bin neu ni fyddwn yn gwybod pwy sy’n berchen arno.

Rydym eisiau annog preswylwyr i gymryd gofal o’u biniau. Rhowch labeli ar eich biniau gyda rhif y tŷ fel ei bod yn hawdd i’w hadnabod a’u rhoi nhw allan mor agos ag sy’n bosib i ddiwrnod casglu a’u cadw nhw cyn gynted  â phosib ar ôl iddyn nhw gael eu gwagio.

Storiwch y biniau yn ddiogel rhwng casgliadau ar eich eiddo, yn eich gardd neu iard gefn. Os fydd y bin wedi diflannu edrychwch amdano ar unwaith yn yr ardal gyfagos neu gofynnwch i gymdogion os ydyn nhw wedi’i gymryd mewn camgymeriad. Yn aml maen nhw’n ymddangos ar ôl diwrnod neu ddau – neu ar y diwrnod casglu biniau nesaf. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’ch bin bydd angen talu am un yn ei le.

Oes yna unrhyw help yn cael ei roi i breswylwyr sydd ar fudd-daliadau?

Oes yna unrhyw help yn cael ei roi i breswylwyr sydd ar fudd-daliadau?

Mae’r un gost yn berthnasol i bob aelwyd.  Fodd bynnag, os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol (rhaid cael prawf) efallai eich bod yn gymwys i dalu mewn rhandaliadau (byddai’r bin yn cael ei ddosbarthu ar ôl eich taliad cyntaf).

Sut allai dalu am y bin?

Sut allai dalu am y bin?

Bydd taliad yn cael ei dderbyn gyda cherdyn yn unig ac yn daladwy cyn dosbarthiad. Gellir talu gyda cherdyn ar-lein.

Os nad oes gennych gerdyn debyd neu gredyd neu’n cael trafferthion talu ar-lein cysylltwch â 01824 706000 i drafod.

Beth sy’n digwydd os fyddai ddim yn talu am y bin, a fydd bagiau o wastraff yn cael eu casglu?

Beth sy’n digwydd os fyddai ddim yn talu am y bin, a fydd bagiau o wastraff yn cael eu casglu?

Ni fydd bagiau o wastraff yn cael eu casglu, dylai’r gwastraff gael ei gyflwyno mewn bin oni bai eich bod ar gasgliad sachau penodedig (sy’n cael ei gynnig i rai fflatiau ac ardaloedd gwledig). Fodd bynnag, os nad ydych yn dymuno talu am y ffi weinyddol a dosbarthu ar gyfer cyfnewid bin, gallwch gael gwared ar eich gwastraff yn un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ am ddim (cynghorir i chi archebu lle ac mae cyfyngiadau ar sawl ymweliad y gallwch ei wneud).

Ni fydd deiliaid tŷ sy’n gwrthod talu am fin gyda dwy olwyn yn gallu cyflwyno eu gwastraff yn unol â pholisi casglu gwastraff y Cyngor. Mewn achosion o’r fath mi fydd y Cyngor yn galw ar bŵer o dan Adran 46 (3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd, 1990 ac yn cyflwyno rhybudd i’r meddiannydd.  Ar ôl cyflwyno’r rhybudd ni fydd y meddiannydd yn gymwys rhagor ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff ar ymyl palmant y Cyngor nes eu bod yn cydymffurfio â’r rhybudd (mae gwastraff yn cael ei gyflwyno mewn cynwysyddion penodol). Unwaith y bydd rhybudd yn cael ei gyflwyno, bydd y meddiannydd hefyd mewn risg o gael rhybudd cosb benodedig o £100 ar unrhyw bwynt wedi hynny os na fydd y gwastraff yn cael ei gyflwyno’n gywir ac/neu ei gynnwys o fewn y cynhwysydd gwastraff awdurdodedig.

Ydw i’n gallu osgoi’r gost ‘weinyddol’ drwy gasglu fy min newydd o’r depo?

Ydw i’n gallu osgoi’r gost ‘weinyddol’ drwy gasglu fy min newydd o’r depo?

Dosbarthiadau yn unig a wneir ar gyfer biniau ar olwynion. Ni chaniateir i breswylwyr gasglu biniau ar olwynion ar gyfer rhesymau gweithredol ac iechyd a diogelwch. Mae yna broses weinyddu yn dal i fodoli ac mae’r gost yn cynnwys cyfanswm i dalu am weinyddu’r gwasanaeth.

Mae rhywun yn dwyn fy min o hyd, beth allai ei wneud?

Mae rhywun yn dwyn fy min o hyd, beth allai ei wneud?

Mae yna sawl peth y gallwch ei gwneud i atal eich bin rhag cael ei ddwyn. Defnyddiwch farciwr parhaol neu sticeri rhifau i adnabod eich bin yn glir fel eich eiddo chi. Gallwch hyd yn oed addurno eich bin i helpu atal pobl rhag ei gymryd mewn camgymeriad.  Peidiwch â rhoi eich bin allan noson cyn y casgliad os yn bosib gan fod hynny’n golygu bod mwy o amser iddo fynd ar goll. Dylid gosod y biniau tu allan i’w casglu cyn 7am ar ddiwrnod casglu. Ceisiwch sicrhau eich bod yn nol eich bin cyn gynted â phosib ar ôl y casgliad. Efallai bydd eich cymdogion yn gallu eich helpu gyda hyn.

Allai brynu fy min o rywle rhatach?

Allai brynu fy min o rywle rhatach?

Na – mae’r cyngor yn disgwyl i chi gyflwyno cynwysyddion CSDd gan eu bod nhw’n cwrdd â’r safonau diogelwch angenrheidiol.  Mae’n bwysig iawn fod gan y Cyngor reolaeth dros nifer, maint a math o gynwysyddion gwastraff a gyflwynir fel ein bod yn gallu gorfodi ein polisïau casglu gwastraff.  Ni fydd cynwysyddion heb fod yn rhai CSDd  yn gymwys i’w gwagio.

Dwi wedi symud tŷ a does yna ddim bin yn fy nghyfeiriad newydd, ydw i’n gorfod talu am fy min?

Dwi wedi symud tŷ a does yna ddim bin yn fy nghyfeiriad newydd, ydw i’n gorfod talu am fy min?

Wyt, yn y rhan fwyaf o achosion mi fydd yn rhaid iti dalu cost gweinyddu a dosbarthu. Os yw’r eiddo yn adeilad newydd bydd yn rhaid iti dalu am gasgliad llawn o finiau ailgylchu a gwastraff yn ôl ffioedd a chostau’r Cyngor.

Os ydych wedi symud i eiddo wedi cofrestru o dan gynllun landlord trwyddedig Sir Ddinbych mae’n rhwymedigaeth ar eich landlord i’ch darparu â chasgliad o gynwysyddion gwastraff gwag a glân.

Ni fyddaf ar gael i dderbyn dosbarthiad o’r bin, sut allai fod yn siŵr ei fod wedi cael ei ddosbarthu?

Ni fyddaf ar gael i dderbyn dosbarthiad o’r bin, sut allai fod yn siŵr ei fod wedi cael ei ddosbarthu?

Bydd eich bin yn cael ei ddosbarthu gyda rhif eich eiddo arno, bydd y bin yn cael ei adael o flaen eich eiddo. Byddwn hefyd yn postio nodyn dosbarthu yn nodi’r amser a’r dyddiad y cafodd y bin ei ddosbarthu.  Gallwch nodi lle diogel i ni ddosbarthu eich bin pan fyddwch yn gwneud eich archeb.  Os nad oes lle diogel i adael eich bin a’ch bod yn dymuno i ni eich hysbysu o’r dyddiad dosbarthu, gallwch nodi hynny wrth i chi wneud yr archeb.

A fydd y criwiau yn dychwelyd y biniau i’r man casglu ar ôl iddyn nhw eu casglu?  Dyna pryd mae biniau yn mynd ar goll

A fydd y criwiau yn dychwelyd y biniau i’r man casglu ar ôl iddyn nhw eu casglu?  Dyna pryd mae biniau yn mynd ar goll

Mae’r rhaid i’r holl griwiau casglu ddychwelyd y biniau ar ôl eu gwagio i’r man y cafodd y bin ei gasglu ohono. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhifo eich bin y glir er mwyn eich helpu chi a’r criwiau i nabod pa gyfeiriad y mae’r bin yn ‘perthyn’ iddo.  Mae ein cerbydau casglu gwastraff wedi’u gosod gyda chamerâu 360 gradd. Os bydd eich bin yn mynd ar goll ar ddiwrnod casglu a’ch bod yn credu fod y criwiau heb ei ddychwelyd, byddwn yn gallu edrych ar ffilm o’ch casgliad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn riportio unrhyw finiau coll cyn gynted â phosib ar ôl y casgliad.

Beth ydw i’n fod i wneud gyda’r gwastraff tra byddaf yn disgwyl i’r bin gael ei ddosbarthu?

Beth ydw i’n fod i wneud gyda’r gwastraff tra byddaf yn disgwyl i’r bin gael ei ddosbarthu?

Fel arfer bydd eich bin yn cael ei ddosbarthu o fewn 10 diwrnod gwaith. Yn y cyfamser, gofynnwn i chi storio eich gwastraff ar eich eiddo ac unwaith y byddwch yn derbyn bin arall rhowch y gwastraff yn y bin yn barod i’w gasglu. Ni fyddwn yn derbyn bagiau ar ddiwrnod casglu felly peidiwch â’u gadael nhw allan. Fel arall, gallwch gael gwared ar eich gwastraff yn un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Os bydd y Cyngor yn profi unrhyw oedi gyda dosbarthu eich bin newydd byddwn yn anfon cyflenwad bychan o fagiau awdurdodedig atoch fel eich bod yn gallu cyflwyno’r rhain nes bydd eich bin yn cyrraedd.

Dwi wedi talu’r gost am y bin ond rŵan mae fy hen fin wedi troi fyny, allai gael ad-daliad?

Dwi wedi talu’r gost am y bin ond rŵan mae fy hen fin wedi troi fyny, allai gael ad-daliad?

Gallwch ganslo eich archeb a derbyn ad-daliad hyd at ddeuddydd gwaith cyn y bydd eich bin yn cael ei ddosbarthu.  Fodd bynnag, byddem yn eich cynghori  cyn i chi dalu am fin newydd eich bod yn edrych o gwmpas yn iawn am eich bin. Os oes gennych fin du yn eich eiddo yn barod, pan fyddwn yn dosbarthu bin newydd ni fyddwn yn gadael y bin newydd ac ni fyddwch yn derbyn ad-daliad o’ch ffi dosbarthu a gweinyddu.

Ydw i’n gorfod talu am yr holl finiau ailgylchu?

Ydw i’n gorfod talu am yr holl finiau ailgylchu?

Wyt, mae cost ar gyfer yr holl finiau newydd ac wedi’u cyfnewid ar wahân i cadis cegin ac ymyl palmant ar gyfer gwastraff bwyd.

Dwi angen bin mwy neu fin du ychwanegol? Ydw i angen talu amdano?

Dwi angen bin mwy neu fin du ychwanegol? Ydw i angen talu amdano?

Os oes gennych wastraff ychwanegol oherwydd cyflwr meddygol efallai y bydd gennych hawl i fin mwy. Nid oes cost pan fyddwn yn cyfnewid eich bin am un mwy, fodd bynnag os bydd y bin yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn, yna bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd.  Os ydych angen bin du mwy ar gyfer rheswm arall a bod eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd yn rhaid i chi dalu i’ch bin mwy i gael ei ddosbarthu.

A fydd hynny’n annog pobl i beidio ag ailgylchu?

A fydd hynny’n annog pobl i beidio ag ailgylchu?

Drwy gymryd gofal o’ch bin bydd hynny’n lleihau’r galw am gyfnewid biniau. Mae llawer o’r ceisiadau a gawn am finiau ailgylchu sy’n cael eu llenwi gyda sbwriel ac yna eu gadael i’r cyngor i’w casglu.

Pam dydi fy nhreth y cyngor ddim yn talu am gost y biniau?

Pam dydi fy nhreth y cyngor ddim yn talu am gost y biniau?

Mae rhan o dreth y cyngor yn mynd at gost casglu a gwaredu gwastraff, ac nid ar gyfer y cynhwysydd sy’n dal y gwastraff. Mae casglu gwastraff yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (1990) adran 45 a 46.

Yn ôl i’r rhestr ffioedd