Dyddiadau casgliadau bin

Gallwch ffeindio dyddiadau casglu drwy roi eich manylion yn y bocsys isod.

Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gwneir y newidiadau canlynol i gasgliadau gwastraff cartrefi sydd fel arfer yn digwydd ar ddydd Llun:

  • Bydd casgliadau gwastraff cartrefi yn digwydd ddydd Sadwrn, 23 Rhagfyr 2023, yn lle dydd Llun, 25 Rhagfyr 2023
  • Bydd casgliadau gwastraff cartrefi yn digwydd ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr 2023, yn lle dydd Llun, 1 Ionawr 2024

Bydd yr holl gasgliadau gwastraff cartrefi eraill yn digwydd fel arfer. Sicrhewch eich bod wedi rhoi eich biniau allan erbyn 7am.

Beth yw dyddiadau fy nghasgliadau bin?


Os yw calendr PDF 2022/23 yn ymddangos, agorwch y PDF yn eich porwr a phwyswch CTRL+F5 (i adnewyddu eich storfa dros dro) er mwyn llwytho calendr 2023/24.

Faint o'r gloch ddylwn i roi'r biniau allan?

Fe ddylech osod eich bin allan ar y palmant erbyn 7.00am.

Os na fyddwch chi'n gosod eich cynwysyddion allan yn barod i’w casglu cyn 7:00am neu yn rhoi eich cynwysyddion allan ar y diwrnod anghywir, bydd angen i chi naill ai:

Os ydych chi wedi rhoi eich bin allan i’w gasglu ac na chafodd ei wagio, gwiriwch i weld a oes yna labed neu sticer halogiad ar eich bin. Os oes yna, ni fyddwn yn dychwelyd i wagio eich bin.

Sylwch ein bod yn cadw cofnod o’r biniau nad ydynt wedi cael eu gadael allan ac sydd wedi’u halogi.

Yn yr achos hynny, os ydych chi’n credu bod ein criw wedi methu eich bin ar ddamwain, gallwch roi gwybod am gasgliad sydd wedi cael ei fethu ar-lein.

Peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 3pm. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i’r criwiau gwblhau eich ardal.

Hygyrchedd dogfennau

Lawrlwytho Adobe Acrobat Reader oddi ar Adobe.com.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd.