Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd
Diweddariad gwasanaeth: Casgliadau ailgylchu
9 Ionawr 2026
Mae criwiau y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu wedi wynebu cryn heriau yn ddiweddar o ganlyniad i’r garw ledled y sir dros y dyddiau diwethaf.
Rydym am sicrhau trigolion y bydd unrhyw gasgliadau ailgylchu a fethwyd ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon o ganlyniad i’r eira a'r rhew a achosodd anawsterau i'n criwiau, yn cael eu casglu ar eich diwrnod casglu ailgylchu nesaf.
Bydd unrhyw wastraff ailgylchu ychwanegol a gyflwynir ar eich diwrnod casglu nesaf ar gyfer ailgylchu yn cael ei gasglu.
Rydym yn diolch i holl drigolion y sir am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth tuag at ein criwiau Gwastraff ac Ailgylchu yn ystod y cyfnod tywydd heriol hwn.
Am ragor o wybodaeth am eich diwrnodau casglu Gwastraff ac Ailgylchu ewch i dyddiadau casgliadau bin.
Ar eich diwrnod casglu arferol, sicrhewch fod eich cynwysyddion yn y man casglu erbyn 6.30am. Gallwn gasglu eich gwastraff unrhyw amser ar y diwrnod hwn hyd at 5pm, felly gadewch eich cynwysyddion allan tan hynny.
Os na fyddwch chi'n gosod eich cynwysyddion allan yn barod i’w casglu cyn 6:30am neu yn rhoi eich cynwysyddion allan ar y diwrnod anghywir, bydd angen i chi naill ai:
Casgliadau ailgylchu a fethwyd (Trolibocs / Bagiau / Bag Cardfwrdd / Cadi bwyd)
Os caiff eich casgliad ailgylchu neu fwyd ei fethu, bydd ein criwiau yn anelu dychwelyd o fewn 2 ddiwrnod gwaith i’w gasglu os caiff ei gadarnhau fel casgliad a fethwyd. Os na allant gasglu o fewn yr amser hwn, bydd eich ailgylchu yn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu arferol nesaf.
Casgliadau NHA neu wastraff na ellir ei ailgylchu a fethwyd
Of caiff eich casgliad NHA neu wastraff na ellir ei ailgylchu ei fethu, caiff ei gasglu o fewn 2 diwrnod gwaith i’r casgliad a fethwyd, os caiff ei gadarnhau fel casgliad a fethwyd.
Casgliadau gwastraff gardd a fethwyd
Os caiff eich gwastraff gardd ei fethu, caiff ei gasglu o fewn 5 diwrnod gwaith i’r casgliad a fethwyd, os caiff ei gadarnhau fel casgliad a fethwyd.
Rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm gan y bydd rhai criwiau yn parhau i gasglu gwastraff tan yr amser yma.
Os ydych chi’n credu bod ein criwiau wedi methu eich casgliad bin, gallwch roi gwybod i ni:
- ar-lein o 5pm ar y diwrnod y dylai eich bin fod wedi’i wagio hyd at 3pm y diwrnod gwaith wedyn (dydd Llun i ddydd Gwener)
- ffonio’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid o 8:30am i 3pm y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun i ddydd Gwener) ar ôl y diwrnod pan ddylai eich bin fod wedi’i wagio ar 01824 706 000
Rhoi gwybod am gasgliad gwastraff a fethwyd arlein
Gallwch roi gwybod am gasgliad gwastraff a fethwyd arlein ar ôl 5pm ar y diwrnod dylai fod eich casgliad wedi ei gwblhau
Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd arlein