Casgliadau gwastraff gardd
Diweddaraf am coronafeirws
Bydd casgliadau gwastraff gardd dal yn cyfrannu yn ystod y cyfyngiadau cyfnod atal byr i bobl sydd â thanysgrifiad casgliadau gwastraff gardd.
Oherwydd y galw cynyddol am y gwasanaeth gwastraff gardd, yn dilyn ei wahardd oherwydd y Coronafeiriws, ar hyn o bryd, mae yna 3 i 4 wythnos o oedi o ran darparu biniau gwastraff gardd.
Byddwch yn ymwybodol o hyn wrth danysgrifio o’r newydd neu wrth adnewyddu tanysgrifiad pan rydych angen bin gwyrdd.
Y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau a chyngor ar Coronafeirws.
Gallwn gasglu eich gwastraff gardd pob pythefnos am ffi flynyddol.
Sut i drefnu casgliadau gwastraff gardd
Cofrestru a thalu am gasgliadau gwastraff gardd
Adnewyddu eich tanysgrifiad
Gallwch adnewyddu eich tanysgrifiad hyd at 12 wythnos cyn i’ch tanysgrifiad ddod i ben. Os nad ydych yn siŵr pryd fydd eich tanysgrifiad yn dod i ben, gallwch ddefnyddio'r ffurflen adnewyddu i gael gwybod pryd y gallwch adnewyddu.
Adnewyddu neu gael gwybod pryd y gallwch adnewyddu eich tanysgrifiad
Uwchraddio eich tanysgrifiad
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliadau un bin olwynion gwyrdd 140L neu dri sach dympi ac am newid i gasgliadau dau fin ar olwynion gwyrdd 140L neu chwe sach dympi, gallwch uwchraddio eich tanysgrifiad i £15.00. Ni fydd uwchraddio yn ymestyn eich tanysgrifiad - bydd hwn yn dod i ben 12 mis o ddyddiad eich casgliad cyntaf ar eich tanysgrifiad gwreiddiol 1 bin olwynion neu 3 sach.
Uwchraddiwch eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Fel arall, gallwch fynd i Siop Un Alwad neu ffonio 01824 706000.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi drefnu hyn?
Byddwn yn trefnu i gasglu eich gwastraff gardd am 12 mis o ddyddiad eich casgliad cyntaf. Byddwn yn anfon y canlynol atoch o fewn 10 diwrnod gwaith:
- label adnabod unigryw atoch chi ar gyfer eich bin gwyrdd neu’ch sach ddympi werdd
- calendr dyddiau casglu
- ac yn danfon cynwysyddion ychwanegol (os oes angen)
Gofalwch am eich cod bar gan y bydd ffi weinyddol o £10.00 yn cael ei chodi am sticeri newydd.
Faint yw'r gost?
Mae cost ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn dibynnu ar nifer y cynwysyddion a ddefnyddiwch a sut yr ydych yn tanysgrifio - mae'n rhatach os ydych yn tanysgrifio ar-lein:
Costau gwastraff gardd
Cynhwysyddion | Cost wrth danysgrifio ar-lein | Cost wrth danysgrifio unrhyw ffordd arall |
Un bin olwyn gwyrdd 140 litr neu dri sach ddympi |
£30.00 |
£35.00 |
Dau fin olwyn gwyrdd 140 litr neu chwe sach ddympi |
£45.00 |
£45.00 |
*Cadw eich bin olwyn gwyrdd 240L / 360 litr* |
£45.00 |
£45.00 |
Mae’r cynhwysydd (biniau olwyn neu sachau dympi) rydych chi’n ei ddefnyddio yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer y gwasanaeth x2.
* Mae'r opsiwn yma ar gael i gwsmeriaid a chanddynt eisoes fin olwyn 240/360 litr - ni fyddwn yn dosbarthu mwy o finiau olwyn 240/360 litr.
Mwy o wybodaeth
Cliciwch ar bennawd isod i gael mwy o wybodaeth:
Gallwch ddefnyddio ein parciau ailgylchu a gwastraff yn rhad ac am ddim. Dewch i wybod mwy am ein parciau ailgylchu a gwastraff.
Gellir torri gwastraff gardd yn ddarnau mân a’i roi yn ôl yn y pridd neu fe allwch chi ei gompostio yn y cartref naill ai ar domen gompost draddodiadol neu mewn compostiwr. Mwy o wybodaeth am ein compostiwr cartref.
Gwastraff gardd y gellir eu casglu
Gwastraff gardd y gellir eu casglu
Mae’r gwastraff gardd canlynol i’w roi yn eich bin olwyn gwyrdd neu’ch sach werdd:
- toriadau gwair
- thociadau gardd
- canghennau a brigau
- dail
- rhisgl
- blodau
- rhisgl pren a siafins
- planhigion
Dydyn ni ddim yn gwagio sachau gwyrdd na biniau gwyrdd sy’n cynnwys: pridd, sbwriel cyffredinol o’r cartref na chynnyrch bwyd.
Ydw i’n gallu rhoi gwastraff gardd yn y bin du?
Ydw i’n gallu rhoi gwastraff gardd yn y bin du?
Nac ydych. Ni fyddwn yn gwagio unrhyw fin du neu sach ysbwriel sy'n cynnwys gwastraff gardd. Mae’n rhaid rhoi gwastraff gardd naill ai yn y bin olwyn gwyrdd neu yn y sach ddympi werdd. Os ydym ni’n canfod gwastraff gardd mewn unrhyw gynhwysydd arall, byddwn yn cyflwyno hysbysiad ffurfiol a bydd camau gorfodi pellach yn cael eu cymryd.
Cwsmeriaid casgliadau sachau pinc a chlir wythnosol
Cwsmeriaid casgliadau sachau pinc a chlir wythnosol
Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd ar gael i gwsmeriaid y sachau pinc a chlir. Os oes gennych chi sachau pinc neu glir, peidiwch â chofrestru ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd newydd. Byddwn yn adolygu’ch gwasanaeth a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid.
Onid wyf eisoes yn talu am gasgliad gwastraff gardd yn Nhreth y Cyngor?
Onid wyf eisoes yn talu am gasgliad gwastraff gardd yn Nhreth y Cyngor?
Na. Nid oes yn rhaid i Gynghorau ddarparu casgliad am ddim i breswylwyr ar gyfer eu gwastraff gardd er fod ganddynt ddyletswydd i waredu gwastraff y cartref yn rhad ac am ddim. Mae’r gyfraith yn rhoi disgresiwn i’r Cyngor i godi tâl rhesymol am gasglu gwastraff gardd yn yr un modd ag y gellir codi tâl am gasgliad gwastraff mawr.