Y Cynllun Cymorth Costau Byw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth a fydd yn darparu taliad i aelwydydd er mwyn helpu gyda chostau byw cynyddol.
Nid yw’r taliadau’n drethadwy ac ni fyddant yn cael effaith ar unrhyw hawl i Fudd-daliadau Lles.
Mae gan y Cynllun Cymorth Costau Byw ddau gynllun talu:
- Y prif gynllun (mae'r cynllun yma nawr ar gau)
- Y cynllun dewisol
Byddwch ond yn gallu derbyn taliad gan un o’r cynlluniau hyn.
Dewiswch gynllun i weld beth sydd ar gael a phwy sy’n gymwys.
Y prif gynllun
Caewyd y prif gynllun Cymorth Costau Byw am 5pm ddydd Gwener 30 Medi 2022.
Serch hynny, efallai eich bod chi’n dal yn gymwys i fanteisio ar y cynllun disgresiynol.
Y prif gynllun a ddarperir grant ariannol o £150 i unigolion a oedd yn byw mewn eiddo yn Sir Ddinbych ar 15 Chwefror ac yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso canlynol
- mae’r eiddo o fewn bandiau Treth y Cyngor, A, B, C neu D
- mae’r unigolyn sy’n byw yn yr eiddo’n derbyn Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (beth bynnag yw band treth cyngor yr eiddo)
- mae’r eiddo o fewn band treth y cyngor E, ond mae’r preswylydd yn derbyn gostyngiad anabledd, sy’n lleihau’r gwerth taladwy i Fand D
Bandiau Treth y Cyngor
Canfod band eiddo yn Sir Ddinbych
Pwy sydd ddim yn gynnwys ar gyfer y prif gynllun
Nid yw’r prif gynllun ar gael os:
- yw’r eiddo’n wag
- yw’r eiddo’n ail gartref
- yw’r preswylydd yn derbyn eithriad i dreth y cyngor yn sgil salwch meddwl difrifol (yn yr achos hwn, mae’n debygol y byddai taliad yn cael ei wneud drwy’r cynllun dewisol)
- yw’r preswylydd yn unigolyn sydd wedi gadael gofal (yn yr achos hwn, mae’n debygol y byddai taliad yn cael ei wneud drwy’r cynllun dewisol)
Y cynllun dewisol
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer y Cynllun Costau Byw Dewisol i bobl nad ydynt yn gymwys i gefnogaeth o dan y prif gynllun.
Pwy sy’n gymwys?
Bydd y cynllun dewisol yn darparu grant o £150 i unigolyn sy’n byw mewn eiddo Sir Ddinbych ar 15 Chwefror 2022 ac yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso canlynol:
- yr oedd y person oedd yn byw yn yr eiddo yn derbyn eithriad treth gyngor nam meddyliol difrifol
- oherwydd salwch meddwl difrifol roedd yr unigolyn a oedd yn byw yn yr eiddo yn cael eithriad treth y cyngor fel un ai derbynnydd neu roddwr gofal
- roedd yr unigolyn a oedd yn byw yn yr eiddo yn cael eithriad treth y cyngor fel rhywun sydd wedi gadael gofal
- roedd yr unigolyn a oedd yn byw yn yr eiddo yn cael eithriad treth y cyngor fel myfyriwr
- yr eiddo yn cael ei restru fel anecs a’r unigolyn sy’n byw yn yr eiddo yn cael eithriad dosbarth W (anecs wedi ei feddiannu)
- yr unigolyn a oedd yn byw yn yr eiddo yn cael eithriad treth y cyngor gan eu bod o dan 18 oed
- yr unigolyn yn byw mewn Tŷ Amlfeddiannaeth ac yn gorfod talu tuag at eu costau gwresogi / goleuo
- yr eiddo ym Mand F, G, H neu I a’r unigolyn sy’n byw yn yr eiddo yn cael Gostyngiad Anabledd.
- yr eiddo ym Mand F, G, H neu I ac nid yw’r unigolyn sy’n byw yn yr eiddo yn cael Gostyngiad Treth y Cyngor ac nid ydynt yn cael gostyngiad anabledd ond mae ganddynt bremiwm neu fudd-dal anabledd
- yr unigolyn sy’n byw yn yr eiddo yn cael Credyd Cynhwysol ond nid ydynt yn hawlio Cymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (waeth beth fo Band eiddo treth y cyngor)
- yr eiddo ym Mand E, F, G, H neu I ac mae’r unigolyn sy’n byw yn yr eiddo yn cael Budd-dal Tai ond nid ydynt yn cael unrhyw Gymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Pobl sy’n symud i Sir Ddinbych o wlad arall yn y DU
Byddwn yn ystyried achosion ar gyfer taliad o £150 pan fo’r unigolyn wedi symud i Sir Ddinbych ar ôl 15 Chwefror 2022 o wlad arall yn y DU ble roedd dyddiad cymhwysedd y wlad honno yn 1 Ebrill 2022.
Eiddo Band E
Bydd y cynllun dewisol yn darparu grant o £150 i unigolyn sy’n byw mewn eiddo Band E yn Sir Ddinbych ar 15 Chwefror 2022.
Pwy sydd ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun dewisol
Nid yw’r cynllun dewisol ar gael pan:
- fo’r eiddo yn wag
- fo’r eiddo yn ail gartref
- eiddo ym Mand F, G, H neu I oni bai eu bod yn gymwys o dan un o’r meini prawf cymhwyso
- y preswylydd yn gymwys o dan y prif gynllun
Sut i wneud cais
Atebwch y cwestiwn/au canlynol i ddod o hyd i sut i ymgeisio.
Derbyn taliad cymorth
Ym mwyafrif yr achosion, byddwn yn anfon taliad costau byw i’ch cyfrif banc os ydych yn talu eich treth y cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Rydym bellach wedi dechrau anfon taliadau ar gyfer y Cynllun Cefnogi Costau Byw.
Os byddwch yn gwneud cais am daliad, byddwn yn anelu at brosesu ceisiadau o fewn 28 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.
Debyd Uniongyrchol
Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein i dalu eich treth cyngor, ac os ydych yn gymwys, cyn belled â’ch bod wedi gwneud eich taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf, gallwn anfon taliad costau byw i’ch cyfrif banc heb i chi orfod gwneud cais.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu eich treth cyngor
Cyfrifon Treth y Cyngor ar y Cyd
Byddem yn gwneud taliad i’r unigolyn arweiniol ar y cyfrif treth y cyngor, neu yn achos talwyr Debyd Uniongyrchol, bydd y taliad yn mynd i’r cyfrif banc a ddefnyddir ar gyfer y Debyd Uniongyrchol.
Ceisiadau aflwyddiannus
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod os oedd eich cais yn llwyddiannus neu ddim ac yn cynnig rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid oes proses apelio, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech i ni adolygu ein penderfyniad.
Rhagor o wybodaeth
Dewiswch un o’r canlynol am ragor o wybodaeth:
Tai Amlfeddiannaeth
Caiff Tai Amlfeddiannaeth eu heithrio o’r prif gynllun ond bydd modd eu hystyried yn y cynllun dewisol.